Canwr gwerin ac academydd oedd Roy Bailey (20 Hydref 1935 – 20 Tachwedd 2018).
Fe'i ganwyd yn Llundain.
Roy Bailey | |
---|---|
Ganwyd | 20 Hydref 1935 Bow |
Bu farw | 20 Tachwedd 2018 o methiant y galon Sheffield |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, cymdeithasegydd, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, gitarydd, darlithydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | MBE |
Dechreuodd mewn clybiau gwerin yn ardal Southampton a Portsmouth yn y 60au cynnar, canu caneuon o’r Unol Daleithiau, weithiau gyda’i wraig Val. Dechreuodd bartneriaeth broffesiynol gyda Leon Rosselson o 1964 ymlaen, yn canu caneuon Leon. Ffurfiodd y Band of Hope gyda Martin Carthy, John Kirkpatrick, Dave Swarbrick a Steafan Hannigan a recordiwyd CD, sef ‘Rhythm and Reds’ yn 1994. Gweithiodd hefyd gyda Tony Benn o bryd i’w gilydd, hyd at farwolaeth Benn yn 2014. Roedd ganddynt sioe o’r enw ‘The Writing on the Wall’. Erbyn y 70au, roedd o wedi dechrau perfformio dros Ewrop, ac wedyn yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia. Yn ogystal â chaneuon protest Leon Rosselson, canodd ganeuon Si Kahn a Robb Johnson ymysg eraill. Derbyniodd MBE yn 2000, ond anfonodd y medal yn ôl yn 2006, i brotestio yn erbyn cefnogaeth Prydain i Israel yn erbyn Libanus. Roedd ei berfformiad olaf yn Sheffield ar ei benblwydd, 83 oed, ym mis Hydref 2018.
Pasiodd arholiadau level O ac A yng Ngholeg Technegol Southend. Wedi gwasanaeth genedlaethol gyda’r Llu Awyr Brenhinol a gwaith gyda chwmni NCR, aeth i Brifysgol Caerlyr i astudio Cymdeithaseg ym 1960. Ar ôl graddio, daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Technegol Enfield. Siapiodd ac arweiniodd adran gymdeithaseg y coleg, a daeth yn Coleg Politechnig Middlesex|Goleg Politechnig Middlesex]] ac wedyn Prifysgol Middlesex. Gweithiodd yng Ngholeg Politechnig Sheffield (erbyn hyn Prifysgol Hallam Sheffield) o 1971 ymlaen, a daeth yn deon o’r adran Addysg, Iechyd a Lles. Gyda Mike Brake, ysrifennodd llyfr, ‘Radical Social Work’ ym 1975. Daeth yn aelod o Cynhadledd Gwyredigaeth Genedlaethol ym 1967, ac un o sylfaenwyr Coleg y Gogledd yng Nghastell Wentworth ym 1978. Etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol y Celfydyddau ym 1989. Daeth yn Athro yn Sheffield ym 1989, ac yn Athro Emeritus wedi’i ymddeoliad ym 1990.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Roy Bailey, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.