Tref yn Iwerddon yw Roscommon (Gwyddeleg: Ros Comáin), sy'n dref sirol Swydd Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon, yng nghanolbarth yr ynys.
Enwir y dref ar ôl Sant Comáin (Coman). Poblogaeth: tua 5,000. Lleolir Castell Roscommon ger y dref.
Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Roscommon |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 8 km² |
Uwch y môr | 80 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 53.6333°N 8.1833°W |
Allforiwyd defaid Roscommon i Ben Llŷn rhwng 1810-15 gan Dishley Leicester o'r Iwerddon a Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch o Gymru. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'u bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn". Maen nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal â thir mynydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Roscommon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.