Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Southampton, Hampshire, yn ne Lloegr yw Prifysgol Southampton (Saesneg: University of Southampton).
Mae'n aelod o Grŵp Russell.
Math | prifysgol gyhoeddus, exempt charity, prifysgol ymchwil, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Southampton |
Sir | Dinas Southampton |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.9346°N 1.396°W |
Cod post | SO17 1BJ |
Sefydlwyd ffurf gynharaf y brifysgol, Sefydliad Hartley, gan Gorfforaeth Southampton ym 1862 dan nawdd y dyngarwr Henry Robinson Hartley. Ym 1902 newidiodd yn un o golegau Prifysgol Llundain, Coleg y Brifysgol Hartley. Rhoddwyd Siarter Frenhinol i'r sefydliad ym 1952 gan ei throi'n brifysgol lawn a chanddi'r hawl i ddyfarnu graddau dan enw ei hun, Prifysgol Southampton.
Lleolir prif gampws y brifysgol yn ardal Highfield, Southampton, a lleolir pedwar campws arall yn y ddinas: Campws Avenue (y dyniaethau), y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Ysbyty Cyffredinol Southampton, a Champws Boldrewood (peirianneg a thechnoleg forwrol). Yn ogystal, mae gan Brifysgol Southampton ysgol gelfyddyd yng Nghaerwynt a changen ryngwladol ym Maleisia sydd yn cynnig cyrsiau peirianneg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prifysgol Southampton, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.