Mae'r pabi gwyn yn cael ei ddefnyddio i gofio'r rhai a fu farw ar faes y gad, ac fel symbol o heddwch a heddychiaeth.
Cafodd ei greu mewn ymateb i'r pabi coch gan rai oedd yn teimlo bod cysylltiad rhy agos rhwng y pabi coch a'r lluoedd arfog, a'i fod yn cael ei ddefnyddio i glodfori rhyfelgarwch ac i gyfiawnhau rhyfela yn y cyfnod modern. Nid dim ond milwyr sy'n cael eu cofio drwy'r pabi gwyn, ond pawb sydd wedi marw oherwydd rhyfel. Mae'r gair 'hedd' wedi ei ysgrifennu yng nghanol y pabi gwyn; mae gwisgo pabi gwyn yn arwydd o wrthwynebiad i ryfel.
Mae'r pabi gwyn, fel y pabi coch, yn fater dadleuol. Mae rhai'n ei weld fel ymosodiad ar filwyr sy'n aberthu eu bywydau mewn rhyfel. Pan oedd yn Brif Weinidog Prydain, mynegodd Margaret Thatcher "atgasedd" at y pabi gwyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pabi gwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.