Yn Wica, defnyddir llawer o offer hudol wrth berfformio defodau a seremonïau.
Mae gan bob offeryn ei ddefnydd a'i gysylltiadau symbolaidd ei hun, a defnyddir hwy'n bennaf i ganolbwyntio egnïon, a chânt eu gosod ar yr allor.
Efallai daw'r ymarferiad hwn o draddodiadau'r Seiri Rhyddion, megis defnyddio'r Sgwâr a Chwmpasoedd), ac o ran o ddefodau Urdd Hermetig y Wawr Euraidd.
Yn Wica, defnyddir offer defodol yn ystod defodau i anrhydeddu'r Duwiau a Duwiesau ac i ddewino. Defnyddir yr offer fel arfer gan eu perchennog yn unig (neu, yn achos offer y cwfen, gan y cwfen fel grŵp), er mwyn sicrhau eu bod yn dal dirgryniadau ac egnïon eu perchennog yn unig.
Yn Wica Gardneraidd, dywedodd Gerald Gardner wrth ei ddisgyblion wrth ddysgu iddynt raddau eu hynydiad bod rhaid iddynt greu eu hoffer defodol eu hun. Roedd rhaid i'r person enwi pob offeryn defodol er mwyn cyrraedd yr ail radd o ynydiad, yn ogystal ag esbonio ei ddefnydd a'i symboliaeth.
Cyn defnyddio offeryn mae'n rhaid iddo gael ei gysegru. Yn Llyfr y Cysgodion Gardneraidd, ceir adran a seilir yn gyfan gwbl ar gysegru eitemau defodol. Ynddo, y mae'n datgan bod rhaid i eitemau gael eu cysegru mewn cylch hudol, gyda phentacl ar y llawr yng nghanol y cylch. Mae'n rhaid i'r person osod pob eitem ar y pentacl, ysgeintio ef gyda halen a dŵr, ac wedyn chwythu mwg arogldarthau (mae thus yn gyffredin am fendithio a sancteiddio offer). Ar ôl i'r offeryn gael ei gysegru, y mae'n rhaid datgan bendith.
Y prif offer yw'r Pentacl, Athamé (a hefyd Cleddyf), Hudlath a Charegl. Mae pob un ohonynt yn cynrychioli un o'r bedair elfen; daear (y Pentacl ), awyr (yr Hudlath ), tân (yr Athamé ), a dŵr (y Caregl), er mae rhai yn cysylltu'r Athamé ag awyr a'r Hudlath â thân.
Mae'r bolein yn gyllell gyda charn gwyn, weithiau gyda llafn crwm. Defnyddir ef ar gyfer arferion ymarferol, megis torri perlysiau a chordiau defodol. Ni ddefnyddir yr athamé byth i dorri dim byd ond aer. Defnyddir y thuser i awelu arogldarth. Defnyddir y fflangell yn Wica Gardneraidd i fflangellu aelodau'r cwfen, yn y lle cyntaf mewn defodau ynydu, gyda'r fflangell yn cynrychioli aberth a dioddefaint, a'r cusan yn cynrychioli bendithion o ddigonedd ym mhob agwedd o fywyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Offer hudol yn Wica, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.