Brenin teyrnasoedd Gwent a Glywysing yn ne-ddwyrain Cymru yn yr Oesoedd Tywyll cynnar oedd Meurig ap Tewdrig (Lladin: Mawrisiws, Ffrangeg : Maurice) (fl.
6g OC, efallai tua 585 - 665?). Roedd yn fab i'r brenin Tewdrig (Sant Tewdrig).
Meurig ap Tewdrig | |
---|---|
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | brenin, brenin, brenin |
Tad | Tewdrig |
Plant | Athrwys ap Meurig, Gwenonwy ach Meurig |
Rydym yn dibynnu ar dystiolaeth y siarteri cynnar a geir yn Llyfr Llandaf ac ar rai o'r achau Cymreig am ein gwybodaeth amdano, ac felly rhaid trin y dystiolaeth yn ofalus.
Ymddengys fod Meurig wedi cymryd drosodd fel brenin Gwent pan ymddeolodd ei dad Tewdrig i fynd yn feudwy yng nghlas Tyndyrn, yn ôl traddodiad. Ond dywedir i'w dad ddod allan o'i ymddeoliad i'w gynorthwyo yn erbyn y Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn Gwent ac i'r ddau orchfygu'r goresgynwyr ym Mrwydr Pont y Saeson. Clwyfwyd Tewdrig yn angeuol a bu farw ar ôl y frwydr. Claddodd Meurig ei dad ym Matharn, a rhoddodd y tir amgylchynnol (yn cynnwys ardal Pwllmeurig), yn rhodd i Esgobion Llandaf. Fodd bynnag, mae lle i amau dilysrwydd y rhan honno o'r hanes o leiaf, am fod Llandaf yn awyddus i osod allan ei hawl i dir mewn sawl rhan o dde Cymru ac yn cofnodi'r hawliau hynny ganrifoedd yn ddiweddarach yn Llyfr Llandaf.
Ymddengys fod Meurig wedi aduno ei deyrnas ag Erging (mân deyrnas gynnar yn yr hyn sy'n Swydd Henffordd heddiw) trwy briodi Onbrawst, ferch Gwrgan Fawr o Erging. Honna Llyfr Llandaf fod Meurig wedi rhoi llawer o dir yn rhodd i glas Llandaf, lle cafodd ei gladdu.
Roedd yn dad i Athrwys ap Meurig. Credir i Athrwys farw cyn Meurig, ac i'w wyrion, Ithel a Morgan Mwynfawr, etifeddu'r deyrnas.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Meurig ap Tewdrig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.