Cantores boblogaidd o Loegr yw Melanie C neu Mel C (ganwyd 12 Ionawr 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel canwr-gyfansoddwr, cerddor, entrepreneur, bardd a pheroriaethwr.
Melanie C | |
---|---|
Ffugenw | Mel C, Sporty Spice |
Ganwyd | Melanie Jayne Chisholm 12 Ionawr 1974 Whiston |
Man preswyl | Llundain |
Label recordio | Virgin Records, Bonnier Amigo Music Group AB |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, entrepreneur, canwr, bardd, cyfansoddwr, ysgrifennwr, actor, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, Britpop, roc poblogaidd |
Gwefan | http://www.melaniec.net |
Fe'i ganed yn Whiston, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr ar 12 Ionawr 1974.
Mae hi'n un o bum aelod y Spice Girls, lle cafodd y llysenw Sporty Spice. Ers 1996, mae Melanie wedi gwerthu dros 105 miliwn o recordiau, gan gynnwys 85 miliwn o gopïau gyda'r grŵp, ac 20 miliwn o albymau, senglau fel unigolyn, ac mae wedi ennill dros 325 o ardystiadau byd-eang (yn cynnwys nifer o ddiemwntau), gan gynnwys 40 o ardystiadau arian, aur a phlatinwm, fel artist unigol.
Melanie Jayne Chisholm oedd yr unig blentyn yn y teulu. Priododd ei rhieni ar 12 Ionawr 1971 ac ym 1978, ysgarodd y ddau, pan oedd Melanie yn bedair oed a hanner. Gweithiodd ei thad, Alan Chisholm, fel ffitiwr yng Nghwmni Otis Elevator ac roedd ei mam, Joan O'Neill, yn gweithio fel ysgrifenyddes a PA; roedd wedi bod yn canu mewn bandiau cerdd ers oedd yn 14. Magwyd Melanie C yn Widnes, Sir Gaer lle mynychodd Ysgol Uwchradd Fairfield.
Wedi'r ysgol, astudiodd ar gyfer cwrs diploma mewn dawns, canu, drama, a theatr gerddorol yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Doreen Bird yn Sidcup, De-ddwyrain Llundain. Tra yn y coleg, atebodd hysbyseb yn The Stage gan Chris a Bob Herbert, a oedd yn bwriadu ffurfio grŵp merched newydd, yn ddiweddarach i fod yn Spice Girls. Enillodd gymwysterau addysgu tap a dawns theatr fodern gyda Chymdeithas Imperial Athrawon Dawnsio ond gadawodd y coleg ychydig cyn cwblhau ei chwrs tair blynedd.
Dechreuodd Melanie C ei gyrfa unigol ar ddiwedd 1998 trwy ganu gyda'r canwr roc o wledydd Prydain, Bryan Adams, gyda'r gân "When You're Gone". Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, Northern Star, yn 1999, gan gyrraedd rhif 1 yn Sweden a rhif 4 ar Siart Albymau y DU. Cafodd ei ardystio'n rhyngwladol gyda saith ardystiad platinwm a thair aur, gan gynnwys Platinwm triphlyg gan y Diwydiant Ffonograffig Prydeinig, gan werthu dros 4 miliwn o gopïau ledled y byd, a dod yn albwm solo gorau unrhyw aelod o'r Spice Girls.
Daeth bedair gwaith yn y "prif 5" ac yn yr 20 sengl uchaf: cyrhaeddodd dau ohonynt y rhif 1 yn y DU. Cafodd yr albwm ei ardystio'n aml-blatinwm ledled y byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Melanie C, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.