Maredudd ap Cynan ab Owain neu Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m.
1212), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Gruffudd ap Cynan ab Owain). Roedd yn fab i'r tywysog Cynan ab Owain Gwynedd.
Maredudd ap Cynan ab Owain | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Bu farw | 1212 |
Tad | Cynan ab Owain Gwynedd |
Mam | Angharad ferch Genillin |
Plant | Llywelyn Fawr ap Maredudd, Llawr Grach ap Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd o Feifod |
Yn 1175 llwyddodd y ddau frawd i adennill eu tiriogaeth deuluol, sef cyfran eu tad, Cynan, ar ôl gorchfygu eu hewythr Dafydd ab Owain Gwynedd wedi marwolaeth eu tad yn 1174.
Yn y 1170au gwrthsafasant ymosodiadau ar eu tir gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ymladdodd y ddau yn erbyn Rhodri ab Owain Gwynedd yn y 1190au cynnar ac erbyn 1194 roeddent yn gynghreiriaid i Lywelyn ab Iorwerth pan drechodd Dafydd ab Owain Gwynedd ym Mrwydr Aberconwy.
Bu farw Maredudd ap Cynan yn y flwyddyn 1212. Gadawodd ddau fab, Llywelyn Fawr (nid i'w gymysgu â'r tywysog o'r un enw) a Llywelyn Fychan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Maredudd ap Cynan ab Owain, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.