Annedd a godir dros ddŵr yw llyndy, neu annedd ar byst, sy'n sefyll ar byst yn y dŵr sy'n gosod sylfeini i'r adeiladwaith.
Adeiladir llyndai yn bennaf i amddiffyn yn erbyn llifogydd, a hefyd i gadw fermin allan. Gelwir clwstwr llyndai yn "llyndref".
Saif olion llyndai cynhanesyddol (Almaeneg: Pfahlbauten) ar lannau llynnoedd yn ne'r Almaen, y Swistir, Ffrainc, a'r Eidal. Adeiladwyd llyndai yn yr Alpau o Oes y Cerrig hyd Oes yr Haearn, a chred anthropolegwyr cafodd y llyndai hyn eu codi ar gorsydd glannau'r llynnoedd yn hytrach nag ar y dyfroedd.
Ceir llyndai heddiw mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol y byd, er enghraifft Maleisia, Indonesia, Indo-Tsieina, Y Philipinau, a De America.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyndy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.