Cyfres gymhleth o ogofâu yn ne-orllewin Ffrainc yw Lascaux.
Maent yn fyd-enwog am yr arlunwaith cynhanesyddol ar eu muriau, sy'n dyddio o tua 16,000 mil o flynyddoedd yn ôl yn Hen Oes y Cerrig.
Math | ogof gyda chelf cynhanesyddol, safle archeolegol cynhanesyddol, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prehistoric Sites and Decorated Caves of the Vézère Valley |
Sir | Montignac-Lascaux |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 45.0492°N 1.1761°E |
Statws treftadaeth | monument historique classé, monument historique classé, monument historique classé, rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Saif yr ogofâu yn nyffryn afon Vézère ger pentref Montignac, yn département Dordogne. Cafwyd hyd iddynt ar 12 Medi 1940 gan bedwar bachgen, Marcel Ravidat, Jacques Marsal, Georges Agnel, a Simon Coencas, gyda chymorth ci Ravidat, Robot. Mae'r lluniau gan mwyaf o anifeiliaid.
Agorwyd yr ogofâu i'r cyhoedd, ond erbyn 1955, roedd y carbon deuocsid a gynhyrchid gan 1,200 o ymwelwyr y dydd yn amlwg yn niweidio'r lluniau. Caewyd yr ogofâu yn 1963 i'w gwarchod. Yn 1983, agorwyd Lascaux II, atgynhyrchiad o ran o'r ogofâu, 200 medr o'r safle ei hun. Dynodwyd Lascaux yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lascaux, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.