Gwladgarwr a chymwynaswr i'r Gymraeg oedd John Lasarus Willliams (29 Hydref 1924 – 15 Mehefin 2004).
Fel "John L" byddai pawb yn ei adnabod. Ef sefydlodd Undeb y Gymraeg yn y 60au'r 20g yn dilyn helynt Brewer Spinks a oedd yn gwrthod hawl i'r gweithwyr yn ei ffatri yn Nhanygrisiau i siarad Cymraeg. Roedd yn gynghorydd Plaid Cymru ac yn un o'r arloeswyr a sefydlodd bolisi iaith Cyngor Sir Gwynedd. Sefydlodd Sioe Gymraeg y Borth yn ogystal.
John Lasarus Williams | |
---|---|
Ganwyd | 29 Hydref 1924 Llangoed |
Bu farw | 15 Mehefin 2004 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlithydd, cynghorydd |
Cyflogwr |
Cafodd John L ei eni yn Llangoed, Ynys Môn, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Llanfairpwll. Bu'n athro Cymraeg mewn sawl ysgol. Ymaelododd â Phlaid Cymru a daeth yn gynghorydd i'r Blaid ar Gyngor Sir Gwynedd. Safodd hefyd fel ymgeisydd y Blaid ar Ynys Môn.
Gyda charedigion yr iaith fel Dafydd Orwig, R. Cyril Hughes, Owain Owain ac eraill, sefydlodd Undeb y Gymraeg ym 1965.
Bu farw yn 79 oed ar 15 Mehefin 2004.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Lasarus Williams, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.