Hurfilwr o Sais oedd Syr John Hawkwood (Eidaleg: Giovanni Acuto; tua 1320 – 16 neu 17 Mawrth 1394) ac oedd yn un o condottieri amlycaf y 14g.
John Hawkwood | |
---|---|
Ganwyd | 1320 Sible Hedingham |
Bu farw | 1394 Fflorens |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | condottieri, marchog |
Tad | Gilbert Hawkwood, of Hedington Sible |
Priod | Donnina Visconti |
Plant | Antiocha|Mary Hawkwood, Beatrice Hawkwood |
Ganed yn Sible Hedingham, Essex, yn fab i farcer. Aeth yn filwr yn ystod cyfnod cynnar y Rhyfel Can Mlynedd, ac mae'n debyg iddo gael ei urddo'n farchog gan y Brenin Edward III am frwydro yn erbyn y Ffrancod. Cafwyd cadoediad yn sgil Cytundeb Brétigny (1360), a phenderfynodd Hawkwood arwain cwmni ei hun o filwyr am dâl. Tua 1363 aeth i'r Eidal i ymuno â llu o hurfilwyr Seisnig o enw'r Cwmni Gwyn mewn gwasanaeth Gweriniaeth Pisa, ac yn Ionawr 1364 fe'i etholwyd yn ben-capten arnynt. Tynnodd Hawkwood ar ei brofiadau yn Ffrainc drwy ddefnyddio'r bwa hir a symudiadau chwim ar faes y gad, gydag arfwisg a chyfarpar ysgafn, ac enillodd barch am ddisgyblaeth ei luoedd a'i dactegau.
Yn y cyfnod 1372–78 brwydrodd Hawkwodd dros y Babaeth a Milan. Ym 1377 priododd â Donnina Visconti, merch anghyfreithlon Bernabò Visconti, Arglwydd Milan. Penodwyd Hawkwood yn gapten ar Weriniaeth Fflorens ym 1378, a pharhaodd i ymladd dros gyflogwyr eraill. Ym 1382 gwerthodd Hawkwodd ei diroedd ger Ravenna, yn rhanbarth y Romagna, a roddwyd iddo gan y pab, a phrynodd ystadau ar gyrion Fflorens. Derbyniodd ddinasyddiaeth anrhydeddus oddi ar Fflorens ym 1391. Dechreuodd Hawkwood baratoi i ddychwelyd i Loegr yn niwedd ei oes, a gwerthodd ei ystadau yn yr Eidal ym 1394, ond bu farw yn Fflorens cyn iddo allu symud yn ôl i'w famwlad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Hawkwood, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.