Cangen o deulu brenhinol y Plantagenets oedd Teulu'r York neu Iorciaid, a gychwynodd gydag Edmund o Langley, dug Efrog (marw 1402) sef pedwerydd mab (a fu byw) i Edward III, brenin Lloegr.
Daeth tri o aelodau'r teulu'n frenhinoedd ar Loegr. Ar y linell waed hon yr hawliwyd coron Lloegr gan y teulu, ac ar eu perthynas i Lionel, Duke of Clarence, ail fab (a fu byw) Edward III. Daeth y llinach Iorcaidd i ben pan laddwyd Rhisiart III, brenin Lloegr ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Daeth y linell waed i ben pan y bu farw Edward Plantagenet, 17fed Iarll Warwick yn 1499.
Enghraifft o'r canlynol | teulu o uchelwyr |
---|---|
Label brodorol | House of York |
Rhan o | Llinach y Plantagenet |
Yn cynnwys | tuduriaid |
Sylfaenydd | Edmund o Langley, dug 1af York |
Enw brodorol | House of York |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Priododd mab Edmund o Langley, dug Efrog, sef Richard (m. 1415) gydag Anne, chwaer ac aeres Edmund Mortimer, pumed iarll Mawrth (m. 1425). Drwy Risiart yr hawliodd Iorciaid Rhyfel y Rhosynnau goron Lloegr. Roedd Anne yn orwyres i Lionel, dug Clarence, yr ail o feibion Edward III i dyfu'n oedolyn. Etifeddodd ei mab Richard dug York (m. 1460) holl diroedd y Mortimers, gan ei fam. Etifeddodd gan ei dad y trydydd o linachau a darddai o Edward III. Pan y bu farw Edmund Mortimer, 5ed iarll March, yn 1425 heb blant, etifeddodd ei eiddo yntau hefyd. Roedd Richard, felly, drwy deulu'r Mortimers yn ddisgynnydd i Gwladus Ddu, merch Llywelyn ap Iorwerth, yn aer i hawliau ac etifeddiaeth Tywysogion Gwynedd.
Allwedd | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Yr Iorciaid | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Edward III, brenin Lloegr 1312–1377 | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Lionel, dug 1af Clarence 1338–1368 | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Philippa 5ed iarlles Ulster 1355–1382 | Edmund o Langley, dug 1af York 1341–1402 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Roger Mortimer, 4ydd iarll March 1374–1398 | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Anne Mortimer 1390–1411 | Richard o Conisburgh, 3ydd iarll Cambridge 1375–1415 | Edward o Norwich, ail ddug York 1373–1415 | |||||||||||||||||||||||||||||||
Richard Plantagenet, 3ydd dug York 1411–1460 | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Edward IV, brenin Lloegr 1442–1483 | Edmund, iarll Rutland 1443–1460 | George Plantagenet, dug 1af Clarence 1449–1478 | Richard III, brenin Lloegr 1452–1485 | ||||||||||||||||||||||||||||||
Edward V, brenin Lloegr 1470–1483? | Richard o Amwythig, dug 1af Efrog 1473–1483? | Edward Plantagenet, 17fed iarll Warwick 1475–1499 | Edward, tywysog Cymru 1473–1484 | ||||||||||||||||||||||||||||||
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iorciaid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.