Dinas ym Moroco yw Inezgane, ar gyrion Agadir yn nyffryn Souss yng ngorllewin canolbarth y wlad.
Fe'i lleolir fymryn i'r de o Agadir ger arfordir Cefnfor Iwerydd ac i bob pwrpas mae'n faesdref o'r ddinas honno. Inezgane yw prifddinas weinyddol ardal (préfecture) Inezgane-Aït Melloul, yn rhanbarth Souss-Massa-Draâ. Poblogaeth: 112,753 (2004).
Math | urban commune of Morocco |
---|---|
Poblogaeth | 130,333 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Inezgane-Aït Melloul Prefecture |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 25 metr |
Cyfesurynnau | 30.3658°N 9.5381°W |
Mae'r ddinas yn adnabyddus fel canolfan fasnachol. Cynhelir nifer o farchnadoedd yno sy'n ganolog i'r economi lleol : souk tleta (dydd Mawrth), marchnad gyffredin (beunyddiol), y farchnad ffrwythau sy'n denu masnachwyr o bob rhan o dde Moroco, y souk lledr, y souk gwartheg, a'r souk grawnfwyd.
Mae Inezgane yn un o ganolfannau mawr yr Imazighen (Berberiaid de Moroco). Bu'n ganolfan weinyddol yng ngyfnod rheolaeth Ffrainc ar y wlad ac yn sedd i lywodraethwr lleol (caïd) a apwyntid ganddynt. Yma hefyd roedd canolfan leol llwyth Berber yr Aksimen (Arabeg: Ksima).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Inezgane, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.