Hanes Diwylliannol

Maes rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno hanes ac anthropoleg yw hanes diwylliannol.

Ymdrecha'r hanesydd diwylliannol i ddeall y profiad hanesyddol drwy gysyniadau a themâu megis cynrychiolaeth ac ystyr.

Gellir olrhain gwreiddiau'r maes yn ôl i'r Dadeni ac ysgolheictod y cyfnod hwnnw ar hanes llenyddiaeth ac athroniaeth. Bathodd yr Almaenwyr Kulturgeschichte yn hwyr y 18g, gan adeiladu ar ystyriaethau y cysyniad diwylliant gan Leibniz ac eraill. Roedd yr astudiaethau diwylliannol cynnar hyn yn Ewro-ganolog ac yn cyferbynnu gwareiddiad Ewrop ag anwaredd y gwledydd "cyntefig". Yn hwyrach datblygodd y syniad taw gwerth neu ysbryd sy'n berthnasol i'r holl ddynoliaeth yw diwylliant. Canolbwyntiodd Adelung ar berthynas iaith a diwylliant, a thrafododd yr athronydd Herder lwyddiannau deallusol o safbwynt athroniaeth feirniadol.

Ffrwydrodd y maes yn y 19g a chyhoeddwyd amrywiaeth eang o lyfrau ar bob cyfnod, ardal, a phwnc. Dechreuodd haneswyr ystyried agweddau arbenigol, gan gynnwys bywydau'r bobloedd gynhanesyddol ac ethnograffeg. Ehangodd cwmpas hanes diwylliannol ac aeddfedodd ei ddulliau'n sylweddol yn hwyr y 19g yn sgil ymgorffori anthropoleg â'r maes. Ymsefydlodd ei safle academaidd ar sail llyfryddiaeth eang a sawl cyfnodolyn, ond daeth yn bwnc dadl gan ambell hanesydd. Cafwyd adwaith gan haneswyr gwleidyddol a fynodd blaenoriaeth yr agwedd boliticaidd yn hanesyddiaeth. Karl Lamprecht oedd y prif hanesydd diwylliannol yn y cyfnod hwn, ond hefyd yn ysgolhaig dadleuol am iddo amgyffred seicoleg yn ei waith.

Datblygodd y maes modern yn yr 20g ar sail gweithiau'r Ffrancod Lucien Febvre a Marc Bloch, a ddylanwadodd hefyd hanes cymdeithasol. Arloesodd efrydiau'r mentalités, sy'n astudio credoau ac ofergoelion. Adeiladodd ysgolheigion Seisnig ac Americanaidd ar y dechneg hon mewn gweithiau ar gred mewn hudoliaeth ac erledigaeth gwrachod. Noder hanesyddiaeth ddiwylliannol gynnar y ganrif gan duedd gyfaniaeth a'r cymhelliad i gynnwys hanes popeth. Ymdrechodd haneswyr i ymgymhwyso'r maes drwy ganolbwyntio ar ddadansoddiad yn ogystal â chyfosodiad. Roedd y twf yn astudiaethau menywod yn hollbwysig yn natblygiad hanes diwylliannol yng nghanol y ganrif. Ffurf boblogaidd ar hanes diwylliannol yn y 1980au oedd "microhanes": stori am unigolyn neu garfan fechan o bobl. Yn ystod y Rhyfel Oer, astudiodd nifer o ysgolheigion y maes o safbwynt Marcsaidd neu faterolaidd, neu'n rhoi pwyslais trwm ar economeg gymdeithasol. Ers hynny, mae'r hanes diwylliannol newydd wedi cefnu ar y fath ysgolion meddwl ac yn ystyried amrywiaeth anferth o bynciau pob dydd, megis tor-cyfraith, plentyndod, hiwmor, a gwallgofrwydd. Ceir perthynolaeth yn hanes diwylliannol a wrthodir gan feysydd eraill hanesyddiaeth, ac mae'r hanesydd diwylliannol fel rheol yn anwybyddu rhydwythiaeth economaidd a gwleidyddol ac yn cydnabod taw nod amhosibl yw gwrthrychedd.

Cyfeiriadau

Darllen pellach

  • Peter Burke. What is Cultural History? (2004).
  • Clifford Geertz. The Interpretation of Cultures: Selected Essays (1973).
  • E. H. Gombrich. In Search of Cultural History (1969).

Tags:

AnthropolegHanes

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Lene Theil SkovgaardSwleiman IHong CongSberm13 EbrillOrganau rhywGeiriadur Prifysgol CymruMae ar DdyletswyddSomalilandTsunamiGwyddbwyllFfilm gyffroY Ddraig GochAldous HuxleyY DdaearDenmarcEva StrautmannDisturbiaSurrey4gfietnamMons venerisNational Library of the Czech RepublicYr AlbanParisDavid Rees (mathemategydd)Rhifau yn y GymraegIechyd meddwlDirty Mary, Crazy LarrySue RoderickManon Steffan RosY Chwyldro DiwydiannolJac a Wil (deuawd)Llan-non, CeredigionCodiadEsblygiadCynanCwnstabliaeth Frenhinol IwerddonVox LuxCyfrifegFylfaHerbert Kitchener, Iarll 1af KitchenerEiry ThomasHalogenIwan LlwydDyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, NiwbwrchBanc canologIrene González HernándezAngharad MairHunan leddfuCynaeafuRhifLlanw LlŷnOblast MoscfaY Cenhedloedd UnedigThe FatherRhyw llawRhestr adar Cymru9 EbrillMacOSBeti GeorgeAsiaJim Parc NestPlwmVin Diesel🡆 More