Gwareiddiad Y Maya

Mae Gwareiddiad y Maya yn cyfeirio at gyfnod gwâr a llewyrchus yn hanes y Maya, sef pobl sy'n byw yn Ne Mecsico, Gwatemala, Belîs a rhan ogleddol Canolbarth America.

Seilid eu diwylliant ar amaethyddiaeth ddatblygedig. Ymhlith yr olion mae pyramidau a phalasau. Ystyrir eu cerfluniau o'r cyfnod clasurol (tua 200-1200) ymhlith celfyddyd orau'r cyfandir a chredir eu bont yn flaengar iawn yn eu pensaerniaeth, mathemateg, calendr a'u system seryddol. Roedd eu hysgrifen yn dilyn egwyddor debyg i ysgrifen hieroglyffig yr Hen Aifft.

Gwareiddiad Y Maya
El Castillo yn Chichen Itza
Gwareiddiad Y Maya
Manylun Gwarddrws 26 o Yaxchilan

Gelwir y cyfnod cyn 2000 CC yn hanes y Maya yn Gyfnod Hynafol, pan welwyd datblygiadau mewn amaethyddiaeth a'r pentrefi cynharaf. Yn ystod y Cyfnod Cyn-glasurol, sef c. 2000 CC -250 ÔC) gwelwyd cymdeithasu ehangach, cymhlethach yn ardaloedd y Maya, gyda thyfu a chynaeafu cnydau fel india-corn, ffa, y llysieuyn sgwash a phupur tsili. Tua 750 CC gwelwyd 'dinasoedd' cynharaf y Maya, ac erbyn 500 CC roedd strwythur carreg sylweddol iawn i'w hadeiladau a'u ffyrdd, temlau anferthol a thalwynebau cain. Erbyn y 3g CC defnyddid ysgrifen hieroglyffig. Tua diwedd y cyfnod hwn gwelwyd nifer o ddinasoedd yn y Basn Petén a thyfodd Kaminaljuyu i fod yn rym sylweddol yn Ucheldir Gwatemala. Mae'r Cyfnod Clasurol yn cychwyn tua'r flwyddyn 250, ac mae'r dyddiad hwn wedi'i seilio ar ddyddio meini carreg anferthol, a godwyd i gyfrifo amser, ac a elwir 'Y Calendr Hir-dymor Meso-Americanaidd'. Rhwng y dinasoedd, gwelwyd hefyd rwydwaith o gysylltiadau masnach. Yn Iseldiroedd y Maya, daeth y dinasoedd Tikal a Calakmul yn bwerus iawn a daeth y ddinas Teotihuacán yn allweddol yng ngwleidyddiaeth y 'wlad'.

Erbyn y 9g dechreuodd gwleidyddiaeth canol yr ardal ddatgymalu, a bu rhyfel cartref rhwng y bobl, gadawodd llawer ohonynt y dinasoedd, gan ymfudo i'r Gogledd. Ond yn y Cyfnod Ôl-glasurol, cynyddodd y Chichen Itza yn eu grym, a thyfodd brenhiniaeth y K'iche' yn Ucheldir Gwatemala.

Dechrau'r diwedd i'r Gwareiddiad oedd coloneiddio (neu drefedigaethu) Ymerodraeth Sbaen yng ngwlad y Maya, a dymchwelwyd Nojpetén, y ddinas olaf, yn 1697.

Cyfeiriadau

Tags:

2001200AmaethyddiaethBelîsCalendrCanolbarth AmericaGwatemalaMathemategMayaMecsicoPensaerniaethPyramidYr Hen Aifft

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Organau rhywY CeltiaidNoriaAwstraliaBudgieStorio dataCasachstanLliwJohn F. KennedyFamily BloodIron Man XXXPenelope LivelyDeux-SèvresVox LuxYnysoedd y FalklandsPensiwnCreampieBIBSYSEconomi Gogledd IwerddonfietnamOmo GominaWicilyfrauMae ar DdyletswyddBukkakeCochYnyscynhaearnTeotihuacánY Gwin a Cherddi EraillEssexSafle cenhadolFfrangegYsgol RhostryfanComin WikimediaTeganau rhywLos AngelesIKEAMark HughesGuys and DollsDNAEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885Eternal Sunshine of the Spotless MindGwyddor Seinegol RyngwladolTrais rhywiolSwydd Northampton1945BugbrookeCyfalafiaethCaergaintThe Disappointments RoomY rhyngrwydRhyw tra'n sefyllY Chwyldro DiwydiannolPalas HolyroodAdran Gwaith a PhensiynauHarold LloydEdward Tegla DaviesJohn Churchill, Dug 1af MarlboroughEagle EyeAmericaCoridor yr M4Gwenan EdwardsFfalabalamSŵnamiGemau Olympaidd y Gaeaf 2022Main Page🡆 More