Roedd yr Anrhydeddus Frederick Stephen Archibald Hanbury-Tracy (15 Medi 1848 - 9 Awst 1906), yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Trefaldwyn rhwng 1877 a 1885 ac eto rhwng 1886 a 1892.
Frederick Hanbury-Tracy | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1848 |
Bu farw | 9 Awst 1906 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Thomas Hanbury-Tracy, 2il farwn Sudeley |
Mam | Emma Elizabeth Alicia Dawkins-Pennant |
Priod | Helena Caroline Winnington |
Plant | Eric Thomas Henry Hanbury-Tracy, Edith Julia Helena Hanbury-Tracy, Claud Sudeley Francis Hanbury-Tracy, Cyprienne Emma Madeleine Hanbury-Tracy, Violet Maria Claudia Hanbury-Tracy, Hilda Adelaide Eleanor Hanbury-Tracy, Gwyneth Rose Goda Hanbury-Tracy |
Roedd Hanbury-Tracy yn fab ieuengaf Thomas Hanbury-Tracy, 2il Barwn Sudeley, a'i wraig Emma Elizabeth Alicia, merch George Hay Dawkins-Pennant, o deulu'r Penrhyn. Roedd Sudley Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudley a Charles Hanbury-Tracy, 4ydd Barwn Sudeley, yn frodyr hyn iddo. Fe'i addysgwyd yn breifat ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle graddiodd BA.
Priododd Helena Caroline Winnington ym 1870, unig ferch Syr Frederick T Winnington, ac Anna Helena Domville ei wraig. Bu iddynt 7 plentyn:
Bu farw Sudeley Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudley, brawd Frederick, ym 1877 a chodwyd ei frawd Charles i’r farwniaeth. Er mwyn derbyn ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi bu raid i Charles ildio ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Safodd Frederick dros yr achos ryddfrydoli yn yr isetholiad gan gadw’r sedd a churo’r Arglwydd Castellreigh, yr ymgeisydd Ceidwadol yn weddol gyffyrddus.
Yn y pedwar etholiad canlynol gwrthwynebydd Ceidwadol Hanbury-Tracy oedd Pryce Pryce-Jones. Yn etholiad 1880 llwyddodd i gadw’r sedd. Yn etholiad 1885, llwyddodd Pryce-Jones i gipio’r sedd gyda mwyafrif o 83. Bu etholiad arall ymhen y flwyddyn ym 1886 a llwyddodd Hanbury-Tracy i ennill y sedd yn ôl gyda mwyafrif o 173. Yn yr etholiad nesaf ym 1892 enillodd Pryce-Jones eto. Fe apeliodd y Blaid Ryddfrydol yn erbyn canlyniad yr etholiad gan honni bod Pryce-Jones wedi llwgrwobrwyo etholwyr, ond aflwyddiannus bu’r apêl.
Bu farw yn Brighton yn 57 mlwydd oed.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Hanbury-Tracy | Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1877 – 1885 | Olynydd: Pryce Pryce-Jones |
Rhagflaenydd: Pryce Pryce-Jones | Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1886 – 1892 | Olynydd: Pryce Pryce-Jones |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Frederick Hanbury-Tracy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.