Arloeswr busnes pwysig a sefydlodd fusnes gwerthu drwy'r post oedd Syr Pryce Pryce-Jones (16 Hydref 1834 – 11 Ionawr 1920).
Ganwyd yn Llanllwchaearn ger y Drenewydd. Cafodd ei urddo yn farchog ym 1887.
Pryce Pryce-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 16 Tachwedd 1834 Llanllwchaearn |
Bu farw | 11 Ionawr 1920 y Drenewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Priod | Eleanor Morris |
Plant | Henry Morris Pryce-Jones, Albert Westhead Pryce-Jones, Edward Pryce-Jones |
Roedd Pryce Jones yn ail fab i William Jones, cyfreithiwr, y Drenewydd a'i wraig, Margaret Goodwin, perthynas i'r diwygiwr cymdeithasol Robert Owen. Ar 6 Ebrill 1859, priododd Eleanor (bu f. 1914), ferch Edward Rowley Morris o'r Drenewydd, bu iddynt bedwar mab a phedair merch gan gynnwys:
Dechreuodd weithio fel prentis dilledydd yn Y Drenewydd pan yn 12 oed a bu'n rheoli'r busnes yn 21 oed am fod y perchnogion i ffwrdd ar y pryd. Sefydlodd ei fusnes ei hun ym 1852 a dechreuodd fusnes gwerthu drwy'r post gan anfon patrymau i foneddigion lleol. Sefydlodd y Royal Welsh Warehouse yn y Drenewydd ym mis Hydref, 1879 a thyfodd y busnes yn gyflym. Roedd tua 250,000 - 300,000 o gwsmeraid ganddo ledled y byd, gan gynnwys y Frenhines Victoria: yr oedd yn gwerthu dillad isaf iddi, ac i Florence Nightingale. Roedd ei gwmni yn cynnwys ffatri, storfa ac - o 1901 ymlaen - ei swyddfa bost ei hun. Dyfeisiodd yr Enclisia, sef gwely cludadwy gyda blanced yn debyg i sach gysgu modern.
O'r 1860au ymlaen, arddangosai wlanen y Drenewydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a ledled y byd a chafodd nifer o wobrau hefyd, er enghraifft mewn arddangosfeydd ym Mharis, Brwsel a Berlin yn Ewrop a hefyd yn Philadelphia yn Unol Daleithiau America a Melbourne yn Awstralia.
Ymdrechai Pryce-Jones hefyd i wella'r gwasanaeth parseli post a'r gwasanaeth rheilffordd yr oedd yn dibynnu arnynt yn llwyr yn ei fusnes. Yn y dechrau roedd yn defnyddio'r goets fawr i gludo parseli i'w gwsmeriaid, ond erbyn diwedd y 1870au roedd tri cherbyd arbennig gan y North West Railway Company i gludo parseli o'r Drenewydd i Euston yn Llundain.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Bwrdeistref Trefaldwyn o 1885 i 1886, ac o 1892 i 1895. Ym 1891, daeth Pryce-Jones yn Uchel Siryf Sir Drefaldwyn.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Frederick Hanbury-Tracy | Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1885 – 1886 | Olynydd: Frederick Hanbury-Tracy |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Frederick Hanbury-Tracy | Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1892 – 1895 | Olynydd: Edward Pryce-Jones |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pryce Pryce-Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.