Chwaraewr rygbi'r undeb i dim cenedlaethol Cymru oedd Ernest Ernie Edward George (1871 – 28 Tachwedd 1952). Chwaraeodd dros nifer o glybiau yn ystod ei yrfa, ond mae'n cael ei gysylltu'n bennaf a Phontypridd a Chaerdydd.
Cafodd dri chap dros Gymru rhwng 1895 a 1896.
Ernie George | |
---|---|
Ganwyd | 1871 Llanilltud Fawr |
Bu farw | 28 Tachwedd 1952 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Plymouth Albion R.F.C., Clwb Rygbi Abertawe, Clwb Rygbi Pontypridd |
Dechreuodd George, a oedd yn saer maen o ran ei alwedigaeth, ei yrfa rygbi gyda chlwb Llanilltud Fawr, ond aeth oddi yno i chwarae i Bontypridd. Yn ystod ei gyfnod gyda Phontypridd y cafodd ei ddewis gyntaf i chwarae dros dim cenedlaethol Gymru. Chwaraeodd yn y pac yn y gem yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1895. Roedd George yn un o ddau flaenwr oedd yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf yn y gem honno; Tom Pook o Gasnewydd oedd y llall. Bu'n gem agos a orffennodd gyda Chymru yn colli o 4-5, ac yn wynebu gem olaf yn erbyn Iwerddon i benderfynu pa un ohonynt fyddai'n cael y llwy bren. Cafodd George ei ddewis eto ar gyfer y gem yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau. Roedd honno'n gem agos hefyd, gyda Chymru yn ennill am iddyn nhw lwyddo i drosi eu hunig gais. Chwaraeodd George un gem ryngwladol arall, sef gem agoriadol Pencampwriaeth 1896 oddi cartref yn erbyn Lloegr. Cafodd Cymru grasfa, gyda Lloegr yn sgorio saith cais a Chymru'n methu a chroesi'r llinell o gwbl. Canlyniad hynny oedd newid chwech o'r wyth blaenwr ar gyfer y gem nesaf. Roedd George ymhlith y chwech, ac felly y daeth ei yrfa ryngwladol i ben.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ernie George, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.