Cyfansoddwr a cherddor o Gymro yw Emyr Huws Jones (ganwyd Chwefror 1950).
Mae'n gyn-aelod o fandiau Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim ac yn gyfansoddwr caneuon adnabyddus fel "Cofio Dy Wyneb", "Ceidwad y Goleudy" a "Rebal Wicend".
Emyr Huws Jones | |
---|---|
Ganwyd | Chwefror 1950 Llangefni |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, cerddor, cyfarwyddwr ffilm |
Fe'i magwyd yn Llangefni. Roedd tua 12 pan gafodd gitâr a cafodd ei ddylanwadu gan gerddoriaeth Bob Dylan.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Llangefni a Choleg y Brifysgol, Bangor. Daeth yn ffrindiau gyda Alun 'Sbardun' Huws a ffurfiodd y band Y Tebot Piws gyda Stan Morgan-Jones a Dewi 'Pws' Morris.
Ar ôl gadael y coleg, cafodd swydd yn llyfrgell y dre' yn Aberystwyth, lle roedd yn cymysgu efo'r myfyrwyr oedd yn yfed yn y Blingwyr. Daeth yn ffrindiau gyda Emyr Wyn a chafodd wahoddiad i ymuno gyda Mynediad am Ddim.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Emyr Huws Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.