Llenores o Libanus yn yr iaith Arabeg oedd Emily Daoud Nasrallah (ganwyd Emily Daoud Abi Rached; 6 Gorffennaf 1931 – 14 Mawrth 2018).
Emily Nasrallah | |
---|---|
Ganwyd | إميلي أبي راشد 6 Gorffennaf 1931 Kfeir |
Bu farw | 14 Mawrth 2018, 13 Mawrth 2018 Beirut |
Dinasyddiaeth | Libanus |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, awdur plant, nofelydd, newyddiadurwr |
Gwobr/au | Medal Goethe, National Order of the Cedar |
Gwefan | http://www.emilynasrallah.com |
Ganwyd yn nhref Kfeir, ar droed Mynydd Hermon, i deulu o ffermwyr Cristnogol. Cyhoeddodd ei darnau cyntaf mewn cylchgronau. Gweithiodd rhan-amser mewn ysgol ferched i ennill arian i fynychu'r Brifysgol Americanaidd yn Beirut, ac enillodd ei gradd yn addysg a llenyddiaeth ym 1958. Priododd Philip Nasrallah ym 1957, a chawsant pedwar o blant.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Tuyur Aylul ("Adar Medi"), ym 1962. Yn ystod ei hoes, ysgrifennodd chwe nofel arall, a sawl casgliad o straeon byrion a thraethodau. Gwrthododd i adael y wlad yn ystod Rhyfel Cartref Libanus, er i gartref ei theulu gael ei dinistrio ar un adeg. Daeth yn rhan o garfan o lenorion benywaidd Libanaidd, gan gynnwys Hanan Al-Sheikh, a ysgrifennai ffuglen ar bwnc y rhyfel.
Enillodd Fedal Goethe yn 2017. Bu farw yn 86 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Emily Nasrallah, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.