Roedd Syr Edgar Rees Jones (27 Awst 1878 - 16 Mehefin 1962) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Merthyr Tudful rhwng Ionawr 1910 hyd ddiddymu'r sedd ym 1918 ac yna dros sedd newydd Merthyr rhwng 1918 a 1922
Edgar Rees Jones | |
---|---|
Ganwyd | 27 Awst 1878 Cwmaman |
Bu farw | 16 Mehefin 1962 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr, cyfreithegwr |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Gwobr/au | KBE |
Ganwyd Edgar Jones yng Nghwmaman, yn un o naw o blant Morgan Humphrey Jones, gweinidog gyda'r Bedyddwyr a Margaret Ann (née Evans) ei wraig. Cafodd ei fagu yn Wattstown, Y Rhondda.
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan dderbyn ei radd Baglor yn y Celfyddydau mewn athroniaeth ym 1900 a gradd Meistr yn y Celfyddydau ym 1903. Roedd ei draethawd MA ar "Theorïau gwleidyddol yn Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg".
Priododd Lillian Eleanor May Brackley ym 1919, bu iddynt fab a merch.
Ar ôl gadael y Coleg, bu Jones yn athro o dan gyngor addysg y Rhondda, ac wedyn aeth yn ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Seisnig yn Ysgol Athrawon Porth y Rhondda. Roedd yn aelod egnïol a dylanwadol o Gangen y Rhondda a Phontypridd Undeb Genedlaethol yr Athrawon gan wasanaethu fel ei llywydd am y flwyddyn 1906. Yn niwedd 1908, penodwyd ef yn ddarlithydd i'r Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig a fu yn teithio drwy Gymru yn rhoi darlithoedd am hanes ac athrawiaeth Rhyddfrydiaeth.
Dechreuodd hyfforddi am y gyfraith ychydig cyn ei ethol i'r senedd am y tro cyntaf ac fe'i galwyd i'r bar yn Gray's Inn ym 1912. Bu hefyd yn aelod o far De Cymru Newydd ac Awstralia.
Safodd Jones fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol etholiad cyntaf 1910 am un o ddwy seddBwrdeistref Merthyr Tudful gan ennill y sedd gyntaf gyda 41% o'r pleidleisiau. (Enillodd Keir Hardie yr ail sedd efo 37% o'r pleidleisiau). Cadwodd ei sedd hyd i'r sedd cael ei ddiddymu ar gyfer etholiad 1918. Ym 1918 safodd fel Rhyddfrydwr y Glymblaid yn etholaeth newydd Merthyr gan gipio'r sedd efo 52% o'r bleidlais.
Yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf fe'i penodwyd yn Rheolwr Blaenoriaethau yn y Weinidogaeth Arfau Rhyfel. Un o'i ddyletswyddau oedd sicrhau cyflenwadau digonol o fwydydd tun i'r lluoedd arfog. Cafodd ei urddon farchog ym 1918 am ei wasanaeth yn ystod y rhyfel.
Ar ôl y rhyfel defnyddiodd Jones ei gysylltiadau i sefydlu cwmni Clarke, Jones & Co i allforio bwydydd tun i Awstria a chopr i Tsiecoslofacia. Ar ôl gwerthu'r nwyddau meddiannodd y Comisiwn Iawndal Rhyfel yr arian i dalu amdanynt, gan ei fod yn arian o wledydd a fu'n elynion yn y rhyfel. Rhoddwyd y cwmni yn nwylo goruchwylwyr ansolfedd gyda dyledion o £161,036.. Gan nad oedd methdalwr yn cael bod yn Aelod Seneddol, ni chafodd Jones ymgeisio i gadw ei sedd yn etholiad cyffredinol 1922.
Wedi dod allan o fethdaliad ar ôl dod i gytundeb gyda'i gredydwyr i ad-dalu 5 swllt yn y bunt, roedd Jones yn rhydd i ail geisio am le yn y senedd yn etholiad cyffredinol 1923. Safodd yn etholaeth De Salford heb lwyddiant. Safodd eto, yn etholaeth Gŵyr ym 1931, ond methiant bu ei hanes eto.
Ar ôl ei yrfa seneddol bu Jones yn gadeirydd y Cyngor Canio Bwyd Cenedlaethol, Cyngor Canio Bwyd yr Ymerodraeth ac yn lobïwr, darlithydd ac asiant i'r cartel oedd yn cydweithio i reoli'r farchnad haearn, dur a thunplat byd eang hyd wladoli'r diwydiant ym 1950, pan ymddeolodd.
Bu farw yn ei gartref yn Llundain yn 83 mlwydd oed.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Alfred Thomas | Aelod Seneddol | Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd | Aelod Seneddol | Olynydd: Richard Collingham Wallhead |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edgar Rees Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.