Mae dolennau llewys yn dlysau sy'n cael eu defnyddio i gau'r llewys ar grysau ffurfiol.
Gall dolennau llewys gael ei gwneud o nifer o wahanol ddeunyddiau, gan gynnwys gwydr, carreg, lledr, metel, metel prin neu gyfuniad o'r rhain. Mae'r dolennau fel arfer yn cael eu cau trwy begiau troi yn seiliedig ar y dyluniad ar y blaen. Mae rhai mathau i'w cael sy'n defnyddio cadwyn neu ddarn cefn nad yw'n symud. Gellir addurno rhan flaen y dolennau gyda cherrig gwerthfawr, darluniau mewn enamel, neu gael eu dylunio mewn ffurf dau neu dri dimensiwn.
Math | gem |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae dolennau llewys wedi eu dylunio i gael eu defnyddio ar grysau sydd a thyllau botwm ar ddwy ochr y llawes, ond sydd heb fotymau. Gall rhain fod yn llewys sengl neu ddwbl sydd wedi eu plygu am yn ôl ("Ffrengig"), a chael eu gwisgo naillai yn "cusanu". gyda'r ddau ymyl yn wynebu allan, neu mewn "steil-casgen", gydag un ymyl yn wynebu am allan a'r llall am i mewn fel bod y naill dros y llall. Yn yr Unol Daleithiau, daeth y "steil-casgen" yn boblogaidd trwy ddylanwad clown a diddanwr yn y 19eg ganrif o'r enw Dan Rice. Llewys sy'n "cusanu" sydd fel arfer yn cael eu ffafrio.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dolen lawes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.