Cyfreithiau gwrth-Semitaidd yn yr Almaen Natsiaidd oedd Deddfau Nuremberg (Almaeneg: Nürnberger Gesetze).
Fe'u cyflwynwyd ym 1935 yn rali flynyddol y Blaid Natsïaidd yn Nuremberg. Nodai'r deddfau mai Almaenwyr oedd pobl a oedd a phedwar mamgu neu dadcu "Almaenig neu o waed cyffelyb", tra bod Iddewon yn bobl a oedd a thri neu bedwar mamgu neu dadcu Iddewig. Galwyd person ag un neu ddau mamgu neu dadcu yn Mischling, o dras cymysg, neu "o waed cymysg". Rhwystrai Deddfau Nuremberg Iddewon rhag bod yn ddinasyddion a gwaharddasant briodas rhwng Iddewon ac Almaenwyr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Deddfau Nuremberg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.