Actores, dawnsiwr a chantores Americanaidd oedd Charlotte Greenwood (25 Mehefin 1890 - 28 Rhagfyr 1977).
Dechreuodd ei gyrfa yn 1913 yn y ddrama lwyfan The Tik-Tok Man of Oz, ac aeth ymlaen i serennu mewn nifer o ddramâu llwyfan, ffilmiau a rhaglenni radio llwyddiannus. Mae Greenwood yn cael ei chofio orau am ei rolau yn y ffilm So Long Letty o 1929 ac addasiad ffilm 1955 o Oklahoma! gan Rodgers a Hammerstein. Roedd hi'n eitha tal; tua 6 troedfedd ac yn fwyaf adnabyddus am ei choesau hir a'i chiciau uchel. Enillodd y ganmoliaeth unigryw o fod, yn ei geiriau hi, yr unig fenyw yn y byd a allai gicio jiráff yn ei lygad.
Charlotte Greenwood | |
---|---|
Ganwyd | Frances Charlotte Greenwood 25 Mehefin 1890 Philadelphia |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1977, 28 Rhagfyr 1978 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | dawnsiwr, actor llwyfan, actor ffilm |
Tad | Frank Greenwood |
Mam | Annabelle Higgins |
Priod | Cyril Ring, Martin Joseph Broons |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Ganwyd hi yn Philadelphia yn 1890 a bu farw yn Los Angeles yn 1977. Roedd hi'n blentyn i Frank Greenwood ac Annabelle Higgins. Priododd hi Cyril Ring a wedyn Martin Joseph Broons.
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Charlotte Greenwood yn ystod ei hoes, gan gynnwys;
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Charlotte Greenwood, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.