Llenor Cymraeg oedd Charles Edwards (1628 - wedi 1691), sy'n fwyaf adnabyddus fel awdur Y Ffydd Ddi-ffuant.
Charles Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1628 Rhydycroesau |
Bu farw | 1691 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd |
Ganed ef yn Rhydycroesau ym mhlwyf Llansilin, Sir Ddinbych, yn 1628. Aeth i Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, ond cofnodir iddo gael ei yrru o'r coleg yn 1648 oherwydd iddo wrthod derbyn awdurdod y Senedd. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg yr Iesu yr un flwyddyn, a graddiodd yn 1649. Yn 1650, bu'n bregethwr teithiol yn ôl trefniadau Ddeddf Lledaenu'r Efengyl yng Nghymru, yna yn 1652-3 cafodd fywoliaeth Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Collodd y fywoliaeth honno yn 1659.
Cyhoeddodd Y Ffydd Ddi-ffuant (1667) yn Rhydychen. Yn 1671, cyhoeddodd Dad-seiniad Meibion y Daran, argraffiad newydd o gyfieithiad Morris Kyffin o lyfr yr esgob Jewel, Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr (1595). Yr un flwyddyn, cyhoeddodd ail argraffiad o Y Ffydd Ddi-ffuant gydag ychwanegiad "Hanes y ffydd ymhlith y Cymru". Yn ddiweddarach, bu'n cydweithio a Stephen Hughes a Thomas Gouge ar waith y Welsh Trust, a bu yn Llundain hyd 1684 yn arolygu'r gwaith o gyhoeddi llyfrau Cymraeg rhad i'r tlodion. Cyhoeddodd drydydd argraffiad o Y Ffydd Ddiffuant yn 1677, a Llyfr Plygain gydag Almanac yn 1682. Bu yn ardal Croesoswallt am gyfnod, efallai yn weinidog Anghyfffurfiol yno, cyn dychwelyd i Lundain, lle cyhoeddodd An Afflicted Man's Testimony concerning His Troubles yn 1691. Ni cheir cyfeiriad ato wedi hynny.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Charles Edwards, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.