Mae Cardiff City Ladies F.C.
Er symlrwydd, cyfeirir at y clwb yma (Cardiff City Ladies F.C.) wrth eu henw Saesneg yn unig rhag eu drysu â C.P.D. Merched Dinas Caerdydd sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru. Mae CCLFC n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Merched FA Lloegr ond maent hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Pêl-droed Merched Cymru a nhw yw'r tîm mwyaf llwyddiannus erioed yn y twrnamaint.
Enw llawn | Cardiff City Ladies Football Club | ||
---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1975 | , fel Llanedeyrn LFC||
Maes | CCB Centre for Sporting Excellence, Ystrad Mynach | ||
Chair | Michele Adams MBE | ||
Rheolwr | James Fishlock | ||
Cynghrair | Nodyn:English football updater-W | ||
Nodyn:English football updater-W | Nodyn:English football updater-W | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Sefydlwyd y clwb ym 1975 fel Llanedeyrn Ladies Football Club ar ôl gêm elusennol leol. Yn 1981 newidiwyd yr enw i Cardiff Ladies Football Club, ac ym 1993 cysylltodd y clwb ag C.P.D. Inter Caerdydd (clwb nad sy'n bodoli bellach ond a oedd yn un o brif glybiau Cynghrair Cymru (dynion) yn yr 1990au) a dechrau chwarae yn Stadiwm Athletau Caerdydd. Yn 1997, daeth y cysylltiad ag Inter Caerdydd i ben a newidiodd y clwb ei enw i Glwb Sir Caerdydd wrth gysylltu â Chyngor Sir Caerdydd. Yn 2001 dechreuodd y clwb bod yn gysylltiedig â C.P.D. Dinas Caerdydd, y clwb dynion proffesiynol o'r un ddinas.
Ar ddechrau tymor 2003, fodd bynnag, torrodd y clwb ei gysylltiad â endyd gwrywaidd pan bleidleisiodd ei aelodau yn erbyn cynigion y clwb dynion. Daeth y clwb, unwaith eto, yn glwb annibynnol. Er eu bod yn cael cadw defnyddio'r enw 'Cardiff City' a lliwiau cit, mae'r arfbais yn wahanol iawn, ac nid ydyn nhw bellach yn defnyddio'r llysenw enwog 'Bluebirds' (er bod cyfryngau fel BBC Sport yn cyfeirio atynt o hyd), gan ymgorffori'r ddraig goch Cymru yn lle.
Yn 2006 enillodd Cardiff City Ladies F.C. Adran Ddeheuol Uwch Gynghrair Merched Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA Women's Premier League Southern Division) a chawsant eu dyrchafu i'r "National Division" am y tro cyntaf. Wedi iddynt ddisgyn adran yn nhymor 2007–08, cafodd y clwb ei ddyrchafu nôl i'r National Division yn 2010–11.
Oherwydd bod CCLCF wedi ennill Cwpan Pêl-droed Merched Cymru, mae'r clwb wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ac maent wedi cystadlu sawl gwaith yng Nghwpan Merched UEFA (Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA). Mae felly ganddynt hawl nad oes gan y tîm dynion sydd methu cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru bellach.
Dydy'r clwb bellach ddim wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Maes cartef y clwb bellach yw, Canolfan Chwaraeon CCB yn Ystrad Mynach, Hengoed ger Caerffili sydd i'r gogledd o'r Brifddinas.
Mae'r clwb yn cynnwys sawl haen ar gyfer chwaraewyr - tîm datblygu sy'n chwarae yn yr FA Midland's Development League; Dan-16 sy'n chwarae yng Nghynghrair Menywod a Merched De Cymru; Dan-14 a Dan-13 sydd ill dau hefyd yn chwarae yn y Gynghrair i Dde Cymru.
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cardiff City Ladies F.C., which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.