Boda Tinwyn: Rhywogaeth o adar

Mae'r boda tinwyn (Circus cyaneus ) yn aderyn rheibiol sy'n nythu trwy'r rhannau gogledd o Ewrop, Asia a Gogledd America.

Boda tinwyn
Boda Tinwyn: Rhywogaeth o adar
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Circus
Rhywogaeth: C. cyaneus
Enw deuenwol
Circus cyaneus
(Linnaeus, 1766)

Yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd lle mae'n nythu, mae'r boda tinwyn yn aderyn mudol, ond mewn rhai gwledydd lle nad yw'r gaeafau mor oer, megis Ffrainc ac Ynysoedd Prydain mae'n aros trwy'r flwyddyn. Mae'n nythu ar dir agored, yn aml ar yr ucheldiroedd. Ar lawr y mae'n adeiladu'r nyth, ac mae'n dodwy o bedwar i chwech wy.

Boda Tinwyn: Rhywogaeth o adar
Dosbarthiad y boda tinwyn
Boda Tinwyn: Rhywogaeth o adar
Circus cyaneus

Mae'r ceiliog yn aderyn hawdd ei adnabod, gyda'r rhan fwyaf o'r plu yn llwyd ay y cefn a rhan uchaf yr adenydd a blaen yr adenydd yn ddu, gyda darn gwyn uwchben y gynffon. Brown yw lliw yr iâr, ond gyda'r darn gwyn uwchben y gynffon sy'n rhoi ei enw i'r aderyn. Gellir ei weld yn aml yn hedfan yn isel dros dir agored gan ddav yr adenydd mewn ffurf V. Eu brif fwyd yw mamaliaid bychain ac adar.

Gan fod y boda tinwyn yn aml yn nythu ar rostiroedd gyda grug sy'n cael eu defnyddio ar gyfer saethu'r grugiar, a bod yr aderyn weithiau'n bwyta grugieir ieuanc, mae yn aml yn cael ei saethu gan giperiaid, er bod deddfau yn ei warchod yn y rhan fwyaf o wledydd. Efallai oherwydd hyn, nid yw'n aderyn cyffredin iawn. Mae tua 40 - 50 pâr yn nythu yng Nghymru, ac mae'r nifer wedi cynyddu yn ddiweddar.

Tags:

Aderyn rheibiolAsiaEwropGogledd America

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Clay County, NebraskaStreic Newyn Wyddelig 1981Cleburne County, ArkansasScotts Bluff County, NebraskaBurt County, NebraskaBelmont County, OhioPatricia CornwellDinas MecsicoSomething in The WaterTheodore RooseveltTotalitariaethHocking County, OhioNatalie WoodCornsayDiafframSex & Drugs & Rock & RollHarry BeadlesMontevallo, AlabamaMonroe County, OhioInternational Standard Name Identifier1642John BallingerHuron County, OhioEnaidSefydliad Cytundeb Gogledd yr IweryddWilliam Jones (mathemategydd)Cyfieithiadau i'r GymraegVladimir VysotskyBaxter County, ArkansasNatalie PortmanY rhyngrwydBukkakeYr Almaen Natsïaidd1192CamymddygiadRhyfelGwenllian DaviesRoger AdamsY Rhyfel Byd CyntafGreensboro, Gogledd CarolinaFrancis AtterburyHamesima XPalo Alto, CalifforniaEfrog Newydd (talaith)PrishtinaPursuitSławomir MrożekCairoCymruCaeredinPardon UsMartin AmisSyriaGershom ScholemFocus WalesRobert Wagner2019Johnson County, NebraskaVergennes, VermontRwsiaJoseff StalinRandolph County, IndianaPwyllgor TrosglwyddoPickaway County, OhioBahrainY Ddaear🡆 More