Efengylydd Cristnogol oedd William Franklin Graham, Jr.
Rhoddodd cyngor ysbrydol i sawl Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe ddaeth yn seithfed ar restr Gallup o'r bobl gafodd eu hedmygu fwyaf yn ystod yr 20g. Roedd yn perthyn i enwad Bedyddwyr y De.
Billy Graham | |
---|---|
Ganwyd | William Franklin Graham Jr. 7 Tachwedd 1918 Charlotte, Gogledd Carolina |
Bu farw | 21 Chwefror 2018 Montreat |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, hunangofiannydd, clerig, pregethwr, gweinidog yr Efengyl |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Ruth Graham |
Plant | Franklin Graham, Anne Graham Lotz |
Gwobr/au | KBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Oriel Anfarwolion Cerddoriaeth yr Efengyl, Gwobr Templeton, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Horatio Alger, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | https://billygraham.org/ |
llofnod | |
Dywedir bod Graham wedi pregethu'n fyw i fwy o bobl o amgylch y byd nag unrhyw un arall erioed. Hyd at 1993, roedd mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi ymateb i'w apel yn ei ymgyrchoedd i "dderbyn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol". Hyd at 2002, roedd ei gynulleidfa gydol oes, gan gynnwys darllediadau radio a theledu, wedi cynyddu i dros 2,000 miliwn.
Bu farw yn 99 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Billy Graham, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.