Hanesydd cynnar, mynach a diwinydd o Sais oedd Beda (Saesneg Bede: c.
673 - 735), a aned ger Wearmouth, Durham. Cyfeirir ato'n aml fel "Yr Hybarch Beda" (The Venerable Bede).
Beda | |
---|---|
Ganwyd | c. 672 Jarrow |
Bu farw | 735 Jarrow |
Dinasyddiaeth | Northumbria |
Galwedigaeth | hagiograffydd, bardd, hanesydd eglwysig, cyfieithydd, diwinydd, ysgrifennwr, cyfieithydd y Beibl, hanesydd, emynydd |
Adnabyddus am | Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum, Chronica minora, The Reckoning of Time, On times, De natura rerum |
Dydd gŵyl | 25 Mai |
Mae ei gyfrol yn yr iaith Ladin Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes cynnar gwledydd Prydain, er gwaethaf rhagfarn amlwg yr awdur yn erbyn y Brythoniaid. Cafodd ei gyfieithu i Hen Saesneg yn ystod teyrnasiad y brenin Alfred.
Roedd yn ysgolhaig amryddawn hyddysg yn Lladin a Groeg ac yn gyfarwydd â'r Hebraeg. Ymddiddorai hefyd mewn llenyddiaeth glasurol, meddygaeth, seryddiaeth a gramadeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Beda, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.