Alffred Fawr

Alffred Fawr (848/849 - 26 Hydref 899) oedd Brenin Wessex rhwng 871 a c.886 a Brenin yr Eingl-Sacsoniaid rhwng c.

886 a 899. Ef oedd mab ieuengaf y Brenin Æthelwulf o Wessex. Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc, a bu tri brawd Alffred, Æthelbald, Æthelberht ac Aethelred, yn rheoli o flaen Alffred.

Alffred Fawr
Alffred Fawr
Ganwyd849 Edit this on Wikidata
Wantage Edit this on Wikidata
Bu farwCaerwynt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWessex Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, teyrn Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, brenin Wessex Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl26 Hydref Edit this on Wikidata
TadÆthelwulf Edit this on Wikidata
MamOsburh Edit this on Wikidata
PriodEalhswith Edit this on Wikidata
PlantÆthelflæd, Edward yr Hynaf, Ælfthryth o Fflandrys, Æthelweard, Æthelgifu Edit this on Wikidata
LlinachTeyrnas Wessex Edit this on Wikidata

Wedi iddo ddod i’r orsedd, treuliodd Alffred sawl blwyddyn yn brwydro yn erbyn ymosodiadau gan y Llychlynwyr. Enillodd fuddugoliaeth bwysig ym Mrwydr Edington yn 878 a lluniodd gytundeb gyda’r Llychlynwyr, gan sefydlu Cyfraith y Daniaid yng ngogledd Lloegr yn y pen draw. Arolygodd Alffred hefyd droedigaeth grefyddol yr arweinydd Llychlynnaidd, Guthrum, i Gristnogaeth. Llwyddodd i amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiadau ac ymdrechion y Llychlynwyr i goncro ei deyrnas, ac oherwydd hynny datblygodd i fod yn brif lywodraethwr Lloegr. Mae gwybodaeth am ei fywyd wedi ei chynnwys yng ngwaith yr esgob a’r ysgolhaig Asser.

Roedd Alffred yn enwog am fod yn ddyn dysgedig a thrugarog, gyda natur hawddgar a phwyllog a oedd yn hyrwyddo addysg a dysg. Un o’i awgrymiadau yn y maes hwn oedd cynnig bod addysg gynradd yn cael ei chyflwyno mewn Hen Saesneg yn hytrach na Lladin. Bu hefyd yn unigolyn pwysig o ran sicrhau bod gwelliannau'n digwydd o fewn y gyfundrefn gyfreithiol a milwrol, ac ymdrechodd i wella cyflwr bywyd cyffredinol ei bobl. Rhoddwyd y teitl ‘Fawr’ iddo yn ystod ac ar ôl Diwygiad y 16g. Ef, ynghyd â’r Brenin Danaidd, Cnut Fawr neu Canute, yw’r unig frenhinoedd yn hanes Lloegr sydd wedi cael eu hanrhydeddu gyda’r ansoddair hwn.

Bywyd Cynnar

Ganwyd Alffred rhwng 847 ac 849 O.C. yn Wantage. Roedd yn fab i bumed Brenin Wessex, Ethelwulf, a’i wraig gyntaf, Osburga. Dywedir bod Alffred wedi mynd i Rufain pan oedd yn bump oed, ac iddo ymweld â Siarl, Brenin Ffrainc, gyda’i dad rhwng 854 ac 855. Bu farw Ethelwulf yn 858, a rheolwyd Wessex gan dri brawd Alffred, un ar ôl y llall. Am flynyddoedd, bu'n rhaid iddynt dalu'n ddrud i'r Daniaid am adael llonydd i'w pobl, ond yn 870 glaniodd llu enfawr ohonynt a chafwyd blynyddoedd o frwydro. Cofnodir i o leiaf 9 brwydr ddigwydd, gydag Alffred yn cael y llaw uchaf ar 5 Ionawr 871 gerllaw Reading, a phum diwrnod yn ddiweddarach ym Mrwydr Ashdown (Berkshire), ond ar 22 Mawrth lladdwyd ei frawd Ethelred ym Mrwydr Merton yn Wiltshire.

Brenin Wessex

Coronwyd Alffred yn frenin Wessex ac aeth ati i geisio heddwch.

Cofiant

Ysgrifennodd yr esgob Asser y Vita Ælfredi regis Angul Saxonum yn 893.

Alffred mewn celfyddyd

Mae opera enwog gan Thomas Arne am Alffred sy'n cynnwys y gân Rule Britannia gan James Thomson fel ffinale. Mae'r gân yn ymgais fwriadol i asio hanes brenin Lloegr gyda'r enw Prydain.

Cyfeiriadau

Tags:

Alffred Fawr Bywyd CynnarAlffred Fawr Brenin WessexAlffred Fawr CofiantAlffred Fawr Alffred mewn celfyddydAlffred Fawr CyfeiriadauAlffred Fawr26 Hydref848849899Eingl-SacsoniaidWessex

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Tynal TywyllDe CoreaAwstralia (cyfandir)Walter CradockCannu rhefrolSiot dwad wynebAfon TeifiCaersallogC.P.D. Dinas AbertaweTsieineegYstadegaethBrasilUndeb credydYr HolocostGwainWashington, D.C.The Perfect TeacherJim DriscollTrallwysiad gwaedCeniaThe Wilderness TrailEnglynSian Adey-JonesHiltje Maas-van de KamerHunan leddfuGeraint GriffithsWicipedia22LladinLingua francaSiôn Alun DaviesIndiaNeymarCymraegE. Wyn JamesYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaDohaBrân bigfainAaron RamseyKathleen Mary FerrierUTCOcsigenRobert GwilymBlogY GymanwladThe Speed ManiacAnna VlasovaDwylo Dros y MôrCoffinswellAda LovelaceMediAfter Porn Ends 2Tywysogion a Brenhinoedd CymruPussy RiotSeibernetegFfilmHedd WynPrifysgol CaerdyddInstitut polytechnique de ParisAlldafliad benywYr Undeb SofietaiddCasnewyddBryn TerfelLlyn EfyrnwyDydd Gwener y GroglithOwen Morris RobertsRMS TitanicCerdd DantYnys GifftanBig Boobs🡆 More