Dechreuodd arllwysiad olew Deepwater Horizon o ganlyniad i ffrwydrad ar rig ddrilio olew Deepwater Horizon yng Ngwlff Mexico ar 20 Ebrill 2010.
Erbyn dechrau Mehefin 2010, roedd eisoes ymhlith yr arllwysiadau olew mwyaf erioed, gyda rhwng 3,200,000 a 6,400,000 litr y dydd o olew yn cael ei arllwys i ddyfroedd y Gwlff.
Enghraifft o'r canlynol | Arllwysiad olew, environmental disaster, gwrthdaro amgylcheddol |
---|---|
Dyddiad | 15 Ebrill 2010 |
Lladdwyd | 11 |
Dechreuwyd | 20 Ebrill 2010 |
Lleoliad | Gwlff Mecsico |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Deepwater Horizon yn drilio mewn rhan o'r Gwlff lle mae'r môr yn cyrraedd dyfnder o tua 1,500 medr. Credir fod y broblem wedi deillio o fethiant falf, a lladdwyd 11 o weithwyr ar y rig yn y ffrwydrad a ddilynodd. Rhwng diwedd Ebrill a dechrau Mehefin, defnyddiodd cwmni olew BP nifer o ddulliau gwahanol i geisio atal y llif o olew, ond er fod y llif wedi lleihau, roedd olew yn parhau i arllwys ganol Mehefin. Bu cryn ddifrod i fywyd gwyllt a physgodfeydd ar draethau gogleddol y Gwlff, yn arbennig yn nhalaith Louisiana yn yr Unol Daleithiau. Cyhoeddodd llywodraeth yr Unol Daleithiau y bydd cwmni BP yn cael ei ddal yn gyfrifol am y costau sy'n deillio o'r arllwysiad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Arllwysiad olew Deepwater Horizon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.