Arlunydd o Fflandrys a ddaeth yn arlunydd y llys brenhinol yn Lloegr oedd Antoon van Dyck, hefyd wedi ei Seisnigo i Anthony van Dyck ac amrywiadau eraill (22 Mawrth 1599 – 9 Rhagfyr 1641).
Antoon van Dyck | |
---|---|
Ganwyd | Anthonio 22 Mawrth 1599 Antwerp |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1641 Llundain |
Dinasyddiaeth | yr Iseldiroedd Sbaenaidd |
Galwedigaeth | arlunydd, ysgythrwr, dramodydd, cyfarwyddwr theatr, cyfieithydd, dramodydd, arlunydd llys, drafftsmon, drafftsmon |
Swydd | arlunydd llys |
Adnabyddus am | Jupiter ac Antiope, Siarl Iaf yn Hela, Siarl iaf mewn 3 safle |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, alegori, peintio hanesyddol, portread, peintio lluniau anifeiliaid |
Prif ddylanwad | Peter Paul Rubens |
Mudiad | paentiadau Baróc |
Tad | Franchois Van Dyck |
Mam | Maria Cuypers |
Priod | Mary Ruthven |
Partner | Margaret Lemon |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
llofnod | |
Ganed Van Dyck yn Antwerp i rieni cefnog. Astudiodd arlunio dan Hendrick van Balen, a daeth yn arlunydd annibynnol erbyn tua 1615. O fewn ychydig flynyddoedd daeth yn brif gynorthwydd i Peter Paul Rubens.
Aeth i Loegr am gyfnod yn 1620, lle bu'n gweithio i Iago I, brenin Lloegr a'r Alban, yna bu yn yr Eidal o ddiwedd 1621 hyd 1627, gan weithio yn Genova yn bennaf. Dychwelodd i Lundain yn 1632, lle bu'n gweithio i'r brenin Siarl I fel prif arlunydd y llys. Mae'n adnabyddus am ei bortreadau o Siarl I a'i deulu.
Cymerwyd ef yn wael ym Mharis yn 1641, a bu farw yn fuan ar ôl dychwelyd i Lundain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Antoon van Dyck, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.