Detholiad o lythyrau rhwng D.
J. Williams">D. J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis wedi'u golygu gan Emyr Hywel yw Annwyl D.J.: Llythyrau D.J., Saunders, a Kate. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 04 Mai 2007. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.
Detholiad o 209 o lythyrau rhwng D. J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis - llythyrau sy'n codi'r llen ar fywyd llenyddol a gwleidyddol Cymru am ran helaeth o'r 20g ac sydd hefyd yn llawn ysgrifennu cain gan rai o lenorion pwysicaf y cyfnod yng Nghymru.
Mae Kate Roberts yn datgelu 'nad oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i’; a D. J. Williams yn ceisio perswadio Saunders Lewis i roi’r gorau i ysgrifennu i’r Empire News; a Saunders Lewis,yn beirniadu Waldo Williams am beidio â thalu’r dreth incwm fel protest yn erbyn rhyfel, gan haeru ei fod yn 'rhoi’r argraff i’r di-Gymraeg mai pobl gysetlyd, od, yn chwilio am gyfle i fynd i’r carchar yw’r cenedlaetholwyr Cymreig'.
Ar D.J. y gweithiodd ac y gweithia Emyr Hywel yn bennaf (peth o ffrwyth ei waith ymchwil yn Aberystwyth yw’r gyfrol), ond gydag S.L., llosgwr Penyberth, y mae’n ochri’n wleidyddol, a’i fod yr un mor feirniadol o arweiniad Gwynfor Evans o’r Blaid Genedlaethol ag yr oedd S.L. ei hun. Cyhoeddir yma hefyd y llythyr hwnnw a anfonodd D.J. at S.L. Ddydd Calan 1963, yn canmol Gwynfor Evans ar achlysur diarddel Neil Jenkins o’r Pwyllgor Gwaith. Dywed y Golygydd hefyd mai ‘digon oeraidd’ oedd pethau rhwng G.E. a K.R. yn 1961: ie, y pryd hwnnw, pan oedd hi'n pledio dros weithredu llymach yn erbyn boddi Tryweryn; ond ar hyd y blynyddoedd wedyn yr oedd ganddi ffotograff o Gwynfor ar ei silff-ben-tân.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Annwyl D.J. - Llythyrau D.J., Saunders, a Kate, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.