Alldafliad niwclear, neu alldafliad, yw gwaddod y deunydd ymbelydrol sy'n cael ei daflu i'r uwch atmosffer yn dilyn ffrwydriad niwclear.
Mae'r deunydd fel petae'n cael ei daflu allan o'r awyr yn dilyn y ffrwydriad a'r siocdon. Mae'n aml yn cyfeirio at y llwch ac ulw ymbelydrol sy'n cael ei greu pan mae arf niwclear yn ffrwydro. Mae maint a gwasgariad yr alldafliad yn dibynnu ar faint yr arf ac ar ba uchder mae'n cael ei danio. Gall yr alldafliad gael ei gario gan gynnyrch cwmwl pyrocumulus a disgyn fel glaw du (glaw sydd wedi'i dduo gan yr huddygl gronynnau eraill).
Math | sbwriel |
---|---|
Achos | Nuclear explosion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r llwch ymbelydrol hwn, sydd fel arfer yn cynnwys cynhyrchion ymhollti wedi'u cymysgu ag atomau cyfagos sydd wedi'u troi'r niwtron-weithredol o ganlyniad i datguddiad, yn fath hynod beryglus o halogiad ymbelydrol.
Ceir dau fath o alldafliad. Mae'r cyntaf yn ychydig o ddeunydd carsinogenig gyda hanner-oes hir. Mae'r ail, sy'n dibynnu ar uchder y taniad, yn faint enfawr o lwch a thywod ymbelydrol gyda hanner-oes byr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alldafliad niwclear, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.