Roedd John Aeron Thomas (24 Tachwedd 1850 – 1 Chwefror 1935) yn gyfreithiwr, diwydiannwr a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Maer Abertawe ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol Gŵyr rhwng 1900 a 1906.
Aeron Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1850 Aberaeron |
Bu farw | 1 Chwefror 1935 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, diwydiannwr |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Ganwyd Thomas ar fferm Panteryrod, Llwyncelyn, Aberaeron lle fu Lewis a Jane Thomas, ei rieni, yn amaethu. Bu ei frawd iau, Dr Garrod Thomas, hefyd yn Aelod Seneddol.
Cafodd ei addysgu yn breifat gartref cyn mynd i Ysgol Ramadeg Llwynyrhoden, Llandysul yn 12 oed. Ymadawodd a'r ysgol yn 15 er mwyn gweithio ar y fferm. Wrth weithio ar y tir am 5 mlynedd daeth i ddeall pa mor fregus oedd y perthynas rhwng tenantiaid amaethyddol a'r tirfeddianwyr. Penderfynodd ddychwelyd i'r ysgol er mwyn gwella ei gyfleoedd mewn maes arall. Gwariodd blwyddyn yn Ysgol Ramadeg Aberdaugleddau.
Ym 1880 Priododd, Eleanor (Nelly) Emma Lewis, merch John Lewis, Llanymddyfri. Bu iddynt ddau fab ac un ferch.
Wedi ymadael a'r ysgol am yr ail waith aeth Thomas i gwmni Asa Evans, Aberteifi fel clerc erthyglau. Wedi ennill ei erthyglau fe'i cymhwyswyd yn gyfreithiwr ym 1874. Ym 1875 cafodd cynnig swydd yng nghwmni cyfreithiol dylanwadol Smith, Lewis & Jones Abertawe a Merthyr i fod yn glerc yn swyddfa'r cwmni yn Abertawe. Roedd cytundeb gwaith y cwmni yn cynnwys amod byddai'n cyfyngu ar ei hawl i ymarfer y gyfraith tu allan i'r cwmni. Gwrthododd Thomas y swydd a phenderfynodd sefydlu ei gwmni cyfreithiol ei hun, sef Aeron Thomas & co, Abertawe. Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr bu Thomas yn un o gyfarwyddwyr Weaver & Co, cwmni oedd yn mewnforio grawn o Ffrainc, Rwsia, yr Unol Daleithiau a Chanada. Adeiladodd y cwmni Melin Blawd Weaver yn nociau Abertawe; yr adeilad concrit cyfnerth cyntaf yn Ewrop. Ym 1893 ehangodd ei ddiddordebau diwydiannol i'r maes glo, gan ffurfio Emlyn Colliery Co. Ltd. Roedd y cwmni yn berchen ar waith glo Emlyn ym mhentref Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin . Roedd hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Glo Felinfran, Y Glais, cwmni glo Foxhole, Bôn-y-maen, cwmni glo Berthlwyd, Tre-gŵyr a nifer o gwmnïau eraill.
Safodd Thomas yn enw'r Blaid Ryddfrydol fel ymgeisydd ar gyfer un o'r tair sedd yn Ward y Gorllewin yn etholiadau Cyngor Abertawe ym 1887. Y canlyniad oedd:
Ymgeisydd | Pleidleisiau | Canlyniad |
---|---|---|
W Richards | 434 | wedi ei ethol |
Christopher James | 330 | wedi ei ethol |
H A Chapman | 272 | wedi ei ethol |
J Aeron Thomas | 187 | heb ei ethol |
Aeth Thomas i'r uchel lys i herio ethol James. Ei ddadl oedd bod James allan o wledydd Prydain ar ddiwrnod yr enwebiad a heb arwyddo'r ffurflen i gydsynio i gael ei enwebu; gan hynny nad oedd ei enwebiad yn ddilys. Enillodd Thomas yr achos gan gymryd ei sedd ar y cyngor ym mis Chwefror 1888. Yn etholiad 1893 collodd Thomas ei sedd i'r Ceidwadwr Phillip Richard ond cipiodd y sedd yn ôl yn etholiad 1896. Ym 1897 cafodd ei ddewis gan ei gyd cynghorwyr i wasanaethu fel Maer am y flwyddyn 1898.
Roedd David Randell Aelod seneddol Rhyddfrydol Gwŷr, wedi bod yn dioddef o salwch am beth amser. Rhoddodd gwybod i'w gymdeithas Ryddfrydol nad oedd am sefyll yn etholiad 1900. Bu pedwar dyn yn sefyll fel darpar ymgeiswyr y Rhyddfrydwyr i'w olynu; E H Hedley, Aeron Thomas, John Hodge a Daniel Lleufer Thomas. Enillodd Aeron Thomas yr enwebiad ond penderfynodd John Hodge ei fod am sefyll fel ymgeisydd Llafur annibynnol. Yn yr etholiad cyffredinol llwyddodd Thomas i gadw'r sedd dros y Rhyddfrydwyr. Penderfynodd Thomas i beidio amddiffyn ei sedd yn etholiad cyffredinol 1906.
Bu farw Nellie, gwraig Aeron Thomas ar 29 Ionawr 1935. Ychydig oriau wedi ei hangladd ar 1 Chwefror, bu farw Aeron Thomas yn ei gartref yn Abertawe wedi dioddef pwl o froncitis acíwt. Claddwyd ef wrth ymyl ei wraig ym mynwent Ystum Llwynarth.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Randell | Aelod Seneddol | Olynydd: John Williams |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aeron Thomas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.