Achos Dreyfus

Sgandal wleidyddol oedd Achos Dreyfus, a rannodd Ffrainc yn yr 1890au a'r 1900au cynnar.

Roedd yn ymwneud ag euogfarnu'r Capten Alfred Dreyfus, swyddog magnelaeth Ffrengig ifanc o dras Alsasiaidd - Iddewig, am fradwriaeth ym mis Tachwedd 1894. Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am oes, wedi iddo gael ei gyhuddo o drosglwyddo cyfrinachau milwrol Ffrengig i'r Llysgenhadaeth Almaenig ym Mharis. Cafodd Dreyfus ei anfon i'r wladfa benydiol ar Île du Diable yn Guiana Ffrengig a cafodd ei gadw mewn caethiwed anghyfannedd.

Achos Dreyfus
Tudalen flaen y papur newydd L'Aurore, 13 Ionawr 1898, gyda llythyr Émile Zola "J'Accuse...!", am yr achos Dreyfus. Mae'r pennawd yn ei ddarllen "Rwy'n cyhuddo...! Llythyr at Lywydd y Weriniaeth"

Dyflwydd yn ddiweddarach, ym 1896, daeth tystiolaeth i'r amlwg a oedd yn pwytio at euogrwydd cadfridog yn y fyddin Ffrengig, sef Ferdinand Walsin Esterhazy. Ond atalwyd y dystionaeth hwn gan swyddogion uchel yn y fyddin, a chafodd Esterhazy ei ryddfarnu yn unfryd wedi ail ddiwrnod yr achos llys milwrol. Yn hytrach na chael ei ddifeio, cafodd Alfred Dreyfus ei gyhuddo'n bellach ar sail dogfennau ffug a grewyd gan y swyddogion gwrth-wybodaeth a oedd yn ceisio ail-gadarnau ei euogfarniaeth.

Dechreuodd y newyddion ynglŷn â fframio Alfred Dreyfus gan y llys milwrol ymledaenu, yn bennaf oherwydd y gwrthwynebiad cyhoeddus tanbaid mewn papur newydd ym Paris gan Emile Zola ym mis Ionawr 1898. Cafodd yr achos ei ail-agor a daethpwyd ag Alfred Dreyfus yn ôl o Guyana ym 1899 i gael ei roi ar brawf unwaith eto. Cafodd cymdeithas Ffrengig ei hollti gan yr helynt gwleidyddol dwys a oedd i ddilyn rhwng cefnogwyr Dreyfus (y Dreyfusards) a'r rhai a oedd yn ei gondemnio (a'r anti-Dreyfusards), megis Edouard Drumont (cyfarwyddwr a chyhoeddwr papur newydd gwrth-semitig La Libre Parole) a Hubert-Joseph Henry.

Yn y diwedd, profwyd fod yr holl gyhuddiadau yn erbyn Alfred Dreyfus yn ddi-sail. Cafodd Alfred Dreyfus ei ddifeio a chafodd ei adfer yn gadfridog yn y fyddin Ffrengig ym 1906. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod â'i yrfa yn y fyddin i ben tra'n Is-gapten-cyrnol.

Hanes

Roedd gwrth-semitaeth yn Ffrainc tuag at ddiwedd yr 19eg ganrif yn cael ai arddangos mewn print ac mewn areithiau cyhoeddus gan wleidyddwyr a newyddiadurwyr y dde-pell. Wedi dyfodiad swyddogol Trydydd Gweriniaeth Ffrainc ym 1871, roedd gwleidyddion cenedlaetholgar yn 188au megis Georges Boulanger, Edouard Drumont (sefydlydd Cyngrhair Gwrthsemitig Ffrainc) a Paul Déroulède (sefydlydd Ligue des Patriotes) yn ceisio cymryd mantais o'r brwdfrydedd am Ffrainc Gatholig unedig. Ers 1892, roedd y cyhoeddiad gwrth-semitig "La Libre Parole" wedi argraffu cyfraniadau difenwol "Les Juifs dans l'Armée" ("Yr Iddewon yn y Fyddin"). Mewn ymateb i hyn, heriodd swyddogion Idddewig yn y fyddin, megis André Crémieu-Foa a Armand Mayer, yr awduron i ornest. Collodd Capten Mayer ei fywyd mewn gornest yn erbyn y Marquis de Mores ym Mehefin 1892, gan greu sgandal mawr a osododd drwgdeimlad a gosod y sefyllfa cyn Achos Dreyfus. Roedd y Gweinidog Rhyfel Freycinet wedi ymyrryd yn y Chambre des Députés gan ddweud: "Boneddigion, yn y Fyddin, nid ydym yn cydnabod Iddewon, Protestaniaid na Chatholigon, rydym ond yn cydnabod swyddogion Ffrengig." Ond yn ddiweddarach, cafodd Iddewon Ffrengig yn gyffredinol eu cyfeirio atynt fel petaent yn "genedl o fewn cenedl", gan yr hanesydd George L. Mosse.

Cyfeiriadau

Tags:

Alfred DreyfusAlsaceBradCaethiwed anghyfanneddFfraincGuiana FfrengigIddewon

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Rhys MwynXXXY (ffilm)Dafydd IwanTwrciMET-ArtTyrcegPontllyfniEisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948Hanes CymruArlywydd Ffederasiwn RwsiaDewi SantGwlad IorddonenDubaiFformiwla UnJustin TrudeauPedro I, ymerawdwr BrasilPhyllis KinneyFEMENMiyagawa IsshōGwyn ap NuddBronMudiad dinesyddion sofranAfon YstwythPont HafrenBarcelona, CernywElin FflurPidynAderyn drycin ManawGlasYr IseldiroeddC'mon Midffîld!GoogleYr OdsHen Wlad fy NhadauArfCerddoriaeth rocKigaliCaerdydd3 AwstJohn OwenMichael Clarke DuncanLlyfr Mawr y PlantEconomi AbertaweIfan Huw DafyddTraeth CochEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023GwresGymraegFfuglen llawn cyffroDaearyddiaethMyfyr IsaacBerfGareth Yr OrangutanAfonDerryrealt/Doire ar AltWiciTŷ Opera SydneyTantraIestyn GeorgeGwamPalesteiniaidGwyddor Seinegol RyngwladolYr AlmaenLlaethGrand Theft Auto IVSefydliad Hedfan Sifil RhyngwladolY gosb eithaf🡆 More