Un o départements Ffrainc yw Guyane, yn aml Guyane Ffrengig.
Mae'n un o'r départements tramor (Ffrangeg: départements d'outre mer), a ffurfiwyd o ymerodraeth Ffrainc. Yn ogystal mae'n un o ranbarthau tramor Ffrainc. Saif ar arfordir gogleddol De America, yn ffinio ar Swrinam yn y gorllewin ac ar Brasil yn y dwyrain. Prifddinas y département yw Cayenne.
Arwyddair | Fert Aurum Industria |
---|---|
Math | overseas department and region of France, rhanbarthau Ffrainc |
Prifddinas | Cayenne |
Poblogaeth | 286,618 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Rodolphe Alexandre |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Guianan Creole |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De America, America Ladin |
Sir | Ffrainc |
Gwlad | Guiana Ffrengig |
Arwynebedd | 83,534 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Swrinam, Brasil, Amapá, Sipaliwini District, Marowijne District |
Cyfesurynnau | 3.99886°N 52.99994°W |
FR-973 | |
Corff gweithredol | Regional Council of French Guiana |
Pennaeth y Llywodraeth | Rodolphe Alexandre |
Arian | Ewro |
Fel y gweddill o'r départements tramor, mae'n mwynhau statws yn un fath a Ffrainc fetropolaidd ac yn rhan o Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd, er bod rheolau arbennig yr UE yn gymwys. Mae hefyd yn ardal o Ffrainc ar yr un pryd.
Gorchuddir 96% o Guyane gan fforest law drofannol, a warchodir gan barc cenedlaethol newydd a chwech gwarchodfa natur.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Guyane, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.