Manuel I Komnenos: Ymerawdwr (1118-1180)

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 1143 a 1180 oedd Manuel I Komnenos neu Comnenus, Groeg: Μανουήλ Α' Κομνηνός, Manouēl I Komnēnos neu Μανουήλ o Μέγας, Manuel Fawr (28 Tachwedd, 1118 - 24 Medi, 1180).

Manuel I Komnenos
Manuel I Komnenos: Ymerawdwr (1118-1180)
Ganwyd28 Tachwedd 1118 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Bu farw24 Medi 1180 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethymerawdwr Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
TadIoan II Komnenos Edit this on Wikidata
MamIrene o Hwngari Edit this on Wikidata
PriodMaria o Antioch, Bertha o Sulzbach Edit this on Wikidata
PlantAlexios II Komnenos, Maria Komnene, Alexios Komnenos Edit this on Wikidata
LlinachKomnenos Edit this on Wikidata
Manuel I Komnenos: Ymerawdwr (1118-1180)
Llun Manuel I Komnenos mewn llawysgrif

Roedd Manuel yn bedwerydd mab yr ymerawdwr Ioan II Komnenos. Penododd ei dad Manuel yn olynydd yn hytrach na'i frawd hynaf Isaac Komnenos wedi iddo chwarae rhan bwysig yn y rhyfeloedd yn erbyn y Twrciaid. Wedi dod yn ymerawdwr ar farwolaeth ei dad yn 1143, bu'n ymgyrchu yn y dwyrain a'r gorllewin. Gwnaeth gynghrair a Theyrnas Jeriwsalem a gyrrodd lynges fawr i gymeryd rhan mewn ymosodiad ar yr Aifft. Ymestynnodd ei awdurdod dros wladwriaethau'r croesgadwyr, gyda Raynald, Tywysog Antioch ac Amalric, brenin Jeriwsalem yn gwneud cytundebau oedd yn cydnabod ei awdurdod. Gyrrodd fyddin i'r Eidal yn 1155, ond bu raid iddi encilio oherwydd anghydfod gyda'i gyngheiriaid. Ymosododd ar Deyrnas Hwngari yn 1167, gan orchfygu'r Hwngariaid ym Mrwydr Sirmium. Erbyn 1168 roedd bron y cyfan o arfordir dwyreiniol y Môr Adriatig yn nwylo'r ymerodraeth. Gwnaeth nifer o gytundebau a'r Pab ac a theyrnasoedd Cristionogol y gorllewin, a llwyddodd i sicrhau fod byddinoedd yr Ail Groesgad yn mynd trwy ei diriogaethau heb drafferth.

Yn y dwyrain, gorchfygwyd ef gan y Twrciaid ym Mrwydr Myriokephalon yn 1176, ond llwyddodd ei gadfridog, Ioan Vatatzes, i adfer y sefyllfa.

Tags:

11181143118024 Medi28 TachweddGroeg (iaith)Yr Ymerodraeth Fysantaidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

TrwythOrgasm1800 yng NghymruAderyn ysglyfaethusCalifforniaAmerican Dad Xxx1961Daniel Jones (cyfansoddwr)Yr AlbanEva StrautmannYnniCyfarwyddwr ffilmGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Manic Street PreachersTARDISLloegr Newydd18 HydrefMalavita – The FamilyMary SwanzyIndiaY DdaearLlanelliEthiopiaL'ultima Neve Di PrimaveraCudyll coch MolwcaiddCyfrwngddarostyngedigaethMelyn yr onnenSefydliad WikimediaRhestr o bobl a anwyd yng Ngweriniaeth IwerddonJohn von NeumannParaselsiaethChwyldro1927Richard Bryn Williams1993Melin BapurLleiandyRwmanegBrysteAwstraliaJava (iaith rhaglennu)TorontoJohn William ThomasRhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig ArleinDiwrnod y LlyfrGemau Olympaidd yr Haf 2020WcráinLlyn y MorynionRhestr o wledydd a ddaeth yn annibynnol oddi wrth SbaenFfilm llawn cyffroC.P.D. Dinas Abertawe1949Rhyw llawTom Le CancreHindŵaethHentai KamenBethan Gwanas1865 yng NghymruDriggAffganistan6331855🡆 More