Palais-Royal: Cyn-balas brenhinol Ffrainc, lleolir yn ardal 1af Paris

Mae'r Palais-Royal yn un o gyn-balasau teulu brenhinol Ffrainc.

Lleolir hi yn arrondissement 1af Paris, i'r gogledd o'r Louvre. Ei enw gwreiddiol oedd y Palais-Cardinal, ac fe'i adeiladwyd ar gyfer Cardinal Richelieu tua 1633 i 1639 gan y pensaer Jacques Lemercier. Gan i Philippe d'Orléans wneud newidiadau mawr dros y blynyddoedd, nid oes bron dim ar ôl o ddyluniad gwreiddiol Lemercier.

Palais-Royal
Palais-Royal: Hanes, Heddiw, Oriel
Gwybodaeth gyffredinol
LleoliadParis, Ffrainc
Cyfeiriad204 Rue Saint-Honoré, Place du Palais-Royal
Dechrau adeiladu1633
Gorffenwyd1639
Adferwyd1698–1700; 1719–1729; 1753–1779; 1782–1783; 1791–1793; 1828–1830
Cynllunio ac adeiladu
ClientCardinal Richelieu
Pensaer
  • Jacques Lemercier
  • Jules Hardouin-Mansart
  • Gilles-Marie Oppenord
  • Pierre Contant d'Ivry
  • Pierre-Louis Moreau-Desproux
Gwefan
domaine-palais-royal.fr/en/
Palais-Royal
Enghraifft o'r canlynolpalas brenhinol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1628 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSalle Richelieu, Théâtre du Palais-Royal Edit this on Wikidata
GweithredwrCentre des monuments nationaux Edit this on Wikidata
Enw brodorolPalais-Royal Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthQuartier du Palais-Royal Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.domaine-palais-royal.fr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Palais-Royal bellach yn cael ei ddefnyddio fel sedd y Weinyddiaeth Ddiwylliant, y Conseil d'État a'r Cyngor Cyfansoddiadol. Mae canol gardd y Palais-Royal (Jardin du Palais-Royal) yn barc cyhoeddus gyda siopau a thai bwyta mewn arcêd, a fflatiau uwchben.

Hanes

Palais-Cardinal

Palais-Royal: Hanes, Heddiw, Oriel 
Y Palais-Cardinal, tua 1641

Yr enw gwreiddiol oedd y Palais-Cardinal, roedd y palas yn gartref personol i Cardinal Richelieu. Dechreuodd y pensaer Jacques Lemercier ei ddyluniad yn 1629, dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1633 ac fe'i cwblhawyd yn 1639. Dechreuwyd y gerddi yn 1629 gan Jean Le Nôtre (tad André Le Nôtre), Simon Bouchard, a Pierre I Desgots, i gynllun a grëwyd gan Jacques Boyceau. Pan fu farw Richelieu yn 1642 daeth y palas yn eiddo i'r Brenin, Louis XIII, a chafodd yr enw newydd Palais-Royal.

Ar ôl marwolaeth Louis XIII y flwyddyn ganlynol, daeth yn gartref i Fam Frenhines Anne o Awstria a'i meibion ifanc Louis XIV a Philippe, duc d'Anjou, ynghyd â'i chynghorydd Cardinal Mazarin.

Philippe I, Dug Orléans

Palais-Royal: Hanes, Heddiw, Oriel 
Philippe de France, duc d'Orléans,brawd bach Louis XIV
Palais-Royal: Hanes, Heddiw, Oriel 
Cynllun safle cyffredinol (1692) gan François d'Orbay, yn dangos y gerddi a chafodd ei ail-ddylunio gan André Lenôtre tua 1674.

Priododd Henrietta Anne frawd iau Louis, Philippe de France, duc d'Orléans yng nghapel y palas ar 31 Mawrth 1661. Ar ôl eu priodas, caniataodd Louis XIV i'w frawd a'i wraig ddefnyddio'r Palais-Royal fel eu prif breswylfa ym Mharis. Y flwyddyn ganlynol, rhoddodd y Dduges newydd enedigaeth i ferch, Marie Louise d'Orléans. Hi creodd erddi addurniadol y palas, dywedir eu bod ymhlith y harddaf ym Mharis. Yng nghyfnod y pâr newydd, byddai'r Palais-Royal yn troi mewn i ganolfan gymdeithasol y ddinas.

Cafodd y palas ei ailaddurno a chrëwyd fflatiau newydd ar gyfer morynion a staff y Dduges. Tua 1674, gofynnodd Dug Orléans i André Lenôtre i ail-ddylunio gerddi'r Palais-Royal.

Ar ôl i Henrietta Anne farw yn 1670 cafodd y Dug ail wraig, y Dywysoges Palatine. Yr oedd yn well ganddi fyw yn y Château de Saint-Cloud. Felly daeth Saint-Cloud yn brif breswylfa ei mab hynaf ac etifedd Tŷ'r Orléans, Philippe Charles d'Orléans a elwir y duc de Chartres.

Heddiw

Yn 2024, mae'r gerddi, a'r celf fodern sydd yn y Cour d'honneur yn atyniad twristaidd poblogaidd.

Oriel

Cyfeiriadau

Tags:

Palais-Royal HanesPalais-Royal HeddiwPalais-Royal OrielPalais-Royal CyfeiriadauPalais-RoyalArrondissements ParisFfraincLouvreParisPhilippe d'Orléans (1640 - 1701)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Rhestr ffilmiau â'r elw mwyafTrawstrefaModelGarry KasparovAlldafliad benywJapanFietnamegBig BoobsRule BritanniaIeithoedd Berber13 AwstRuth MadocFamily BloodWikipediaCrac cocênHoratio NelsonTecwyn RobertsYr AlbanBlogRhian MorganOcsitaniaAlexandria RileySbermRhyfel y CrimeaHafan2020SbaenegAristotelesAnna VlasovaWici CofiVin DieselCyfnodolyn academaiddCefnforAligatorFfuglen llawn cyffroCeri Wyn JonesIau (planed)Marie AntoinetteDinas Efrog NewyddPenelope LivelyStorio dataSue RoderickAni GlassSilwairRhestr ysgolion uwchradd yng NghymruBBC Radio CymruGwainTŵr EiffelAllison, IowaConnecticutMargaret WilliamsLliwTlotyEwcaryotWinslow Township, New JerseyIncwm sylfaenol cyffredinolSurreySimon BowerOld HenryHeledd CynwalLaboratory ConditionsCascading Style SheetsRhydamanY Chwyldro Diwydiannol yng NghymruGemau Olympaidd y Gaeaf 2022Cyngres yr Undebau LlafurMy Mistress🡆 More