Mae Cytundeb St.
Andrews (Saesneg: St Andrews Agreement; Gwyddeleg: Comhaontú Chill Rímhinn) yn gytundeb rhwng llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon a’r holl brif bleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon. Fe'i llofnodwyd ar 13 Hydref 2006. Cynhaliwyd y trafodaethau rhwng 11 ac 13 Hydref 2006 yn nhref Saint Andrews yn yr Alban, a dyna roddodd y llysenw ar y Cytundeb.
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dyddiad | Hydref 2006 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Erbyn mis Tachwedd 2002 bu'n rhaid i Lywodraeth San Steffan ddychwelyd i sustem rheolaeth uniongyrchol dros Ogledd Iwerddon. Roedd hyn er gwaethaf cadarnhau Cytundeb Gwener y Groglith, a sefydlu strwythur cymhleth o sefydliadau ar gyfer Gogledd Iwerddon, gan ddefnyddio'r modd o gydgymdeithasoldeb (math o lywodraeth ar gyfer cymdeithasau rhanedig iawn, megis Libanus).
Bu cynnydd sylweddol ers 1998 mewn adfer heddwch ac ymddiriedaeth rhwng y gymuned Unoliaethol Brotestanaidd (pobl sydd, yn fras, yn credu mewn bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig) a'r gymuned Gatholig cenedlaetholwyr Gwyddelig (pobl sy'n credu, yn fras, mewn ail-uno Iwerddon fel un gwlad). Roedd y cynnydd yma yn gynnwys rhyddhau carcharorion, a dad-filwreiddio sefydliadau teyrngarol a’r IRA. Roedd mwyafrif gweithredwyr gwleidyddol Gogledd Iwerddon hefyd yn cydnabod bod angen dod â chynrychiolwyr y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon a’r Gogledd at ei gilydd a hefyd pleidiau gwleidyddol Gwyddelig y Chwe' Sir, er mwyn i'r heddwch barhau. Ond roedd anghydweld ar sawl pwynt pwysig gan gynnwys Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn llyffethair i ailgychwyn llywodraeth 'lleol' gan Weinthrediaeth Gogledd Iwerddon ('llywodraeth' ddatganoledig y Dalaith).
Cytunodd pob un o'r pleidiau a grwpiau ar gynllun i adfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon (Senedd Gogledd Iwerddon):
Roedd addewid i roi statws a chefnogaeth i'r iaith Wyddeleg (a Sgoteg Wlster) yn y Cytundeb hefyd ond doedd dim gweithred neu strategaeth ar hyn. Cymaint felly fel y ffurfiwyd An Dream Dearg - mudiad protest hawliau yr iaith Wyddeleg - yn 2016.
Agnès Maillot (2018). L'IRA et le conflit nord-irlandais (yn Ffrangeg). Gwasg Prifysgol Caen. ISBN 978-2-84133-875-7.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cytundeb St Andrews, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.