Mae Capel y Nant yn eglwys Gymraeg sy'n ceisio cynnal a hyrwyddo'r ffydd Gristnogol yng Nghlydach, Abertawe.
Lleolir Capel y Nant yng nghanol Clydach, ffurfiwyd pan ddaeth cynulleidfaoedd Capel Annibynwyr Hebron a Chapel Annibynwyr Carmel ac Eglwys Bresbyteraidd Salem at ei gilydd i sefydlu cynulleidfa newydd yn adeilad Carmel.
Math | capel anghydffurfiol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Clydach |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.697077°N 3.895699°W |
Cod post | SA6 5HA |
Crefydd/Enwad | Annibynwyr |
Ymffurfiodd y capel yn 2008, cytunodd y Parch Dewi Myrddin Hughes, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i fod yn 'Arweinydd' yr eglwys. Yn dilyn ymddeoliad Dewi ym mis Ionawr 2013, cymerodd y Prifardd Robat Powell swydd 'Arweinydd' Capel y Nant. Robat hefyd yw Ysgrifennydd yr eglwys. Ar ddechrau 2022, cafodd Dr Fiona Gannon ei gwneud yn drydydd 'Arweinydd' Capel y Nant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Capel y Nant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.