41°22′53″N 2°10′20″E / 41.381492°N 2.1722188°E / 41.381492; 2.1722188 2°10′20″E / 41.381492°N 2.1722188°E / 41.381492; 2.1722188
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad terfysgol â cherbyd, llofruddiaeth torfol |
---|---|
Dyddiad | 17 Awst 2017 |
Lladdwyd | 14, 1, 1, 5, 2, 1 |
Rhan o | terfysgaeth Islamaidd yn Ewrop, terfysgaeth yn Sbaen |
Lleoliad | Barcelona |
Rhanbarth | Catalwnia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymosodiad gan derfysgwyr oedd Ymosodiad Barcelona a ddigwyddodd ar 17 Awst 2017 ar brif stryd Barcelona, Catalwnia, sef La Rambla. Gyrrwyd fan i lawr y stryd, liw dydd, gan ladd 13 o bobl ac anafu dros gant. Dihangodd dau o'r drwgweithredwyr ar droed; daliwyd trydydd person gan heddlu Catalwnia (y Policia de la Generalitat de Catalunya - Mossos d'Esquadra) yn dilyn shootout.
Credir i ddyn yn ei ugeiniau logi fan yn Ripoll, ond a ddywedodd wrth yr heddlu fod ei ddogfennau ID wedi'u dwyn. Yn ôl Asiantaeth Newyddion Amaq "milwyr y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS neu ISIL) oedd yn gyfrifol, yn dilyn galwad arnynt i weithredu yn erbyn gwledydd y gynghrair".
Mae'r ymosodiad yn dilyn ffrwydriad y diwrnod cynt mewn tref arall yng Nghatalwnia, Alcanar. Ffrwydrwyd tŷ a lladdwyd un wraig. Dywedodd Josep Lluis Trapero, pennaeth y Mossos d'Esquadra fod y y ffrwydriad yn gysylltiedig â'r ymosodiad yn La Rambla. Pump awr wedi'r ymosodiad saethwyd pum person gan yr heddlu yn Nhalaith Tarragona, eto yng Ngatalwnia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ymosodiad Barcelona, Awst 2017, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.