Casgliad o storiau byrion gan Owain Owain yw Y Peiriant Pigmi.
Cyhoeddwyd yn 1973 gan Wasg Gomer ac argraffwyd gan J. D. Lewis a'i Feibion, Llandysul. Ysgrifennwyd y gwaith yn ail hanner y 1960au a dechrau'r 70au.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Owain Owain |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 1973 |
Pwnc | Amrywiol / Bywyd |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 0850882095 |
Bu'r stori gynta yn y gyfrol hon yn arobryn yng nghystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971. Yn ôl y beirniad, Kate Roberts, (gweler y broliant): "Alegori ddychanol ragorol wedi'i hysgrifennu mewn Cymraeg graenus... " a dywed yr awdur John Gwilym Jones fod yr awdur "wedi consurio yn hytrach na chofnodi... mae ffresni yn ei fynegiant sy'n ychwanegu at draddodiad y Stori Fer Gymraeg."
Bu'r storiau Lle Mae Clod yn Deilwng, Manglo, Hap a Damwain, Y Dwthwn, Pleserau a Gwerthoedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen yn 1972.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Peiriant Pigmi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.