Rhanbarth yn Ne Unol Daleithiau America yw'r De Eithaf, Pellafoedd y De, neu Berfeddion y De (Saesneg: the Deep South) sydd fel rheol yn cynnwys taleithiau Louisiana, Mississippi, Alabama, Georgia, a De Carolina.
Weithiau cynhwysir taleithiau cyfagos, neu rannau ohonynt, yn enwedig dwyrain Texas, gogledd Florida, gorllewin Tennessee, neu ddwyrain a de Arkansas. Nodweddir y rhanbarth gan ddiwylliant arbennig, hanes ac economi cyffredin, a'i ddaearyddiaeth.
Math | isranbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Alabama, Georgia, Louisiana, Mississippi, De Carolina |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Hanes cythryblus o ran hil sydd gan y De Eithaf: caethwasiaeth y bobl dduon a chaethgludo'r brodorion, Rhyfel Cartref America a'r Ailymgorfforiad, arwahanu a deddfau Jim Crow, a'r mudiad hawliau sifil—a demograffeg gymysg yn bennaf o bobl wynion a phobl dduon. Hinsawdd gynnes sydd yma, a seilir yr economi yn hanesyddol ar amaeth, yn enwedig ffermio cotwm a thybaco. Dyma gadarnle'r diwylliant Deheuol, a nodweddir gan gerddoriaeth werin megis canu gwlad a'r felan, gwerthoedd ystrydebol megis "lletygarwch y De", a choginiaeth bwyd cysur. Mae dinasoedd mwyaf y rhanbarth yn cynnwys Atlanta, Georgia, New Orleans, Louisiana, Birmingham, Alabama, a Greenville, De Carolina.
Yr oedd y pump talaith craidd a ystyrir yn y De Eithaf yn cyfri am ran fawr o diriogaeth Taleithiau Cydffederal America; y taleithiau eraill oedd Florida, Texas, Virginia, Arkansas, Tennessee, a Gogledd Carolina. Mae'r De Eithaf yn gorgyffwrdd i raddau helaeth ag Ardal y Cotwm, a'r Gwregys Du. Fe'i gelwir hefyd gan yr enw De'r Iseldir, mewn cyferbyniad â De'r Ucheldir i'r gogledd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y De Eithaf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.