Arlunydd Cymreig oedd William Roos (cyn 30 Ebrill 1808 – 4 Gorffennaf 1878).
Ceir y ffurf 'Roose' ar ei gyfenw hefyd, ond 'Roos' sy'n safonol. Roedd yn frodor o Amlwch, Ynys Môn. Fe'i cofir am ei bortreadau eiconaidd o rai o Gymry enwog ei gyfnod.
William Roos | |
---|---|
Talhaiarn (1864) gan William Roos. | |
Ganwyd | 30 Ebrill 1808 Amlwch |
Bu farw | 4 Gorffennaf 1878 |
Galwedigaeth | engrafwr, arlunydd |
Ceir casgliad o waith William Roos yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Mae'r casgliad yn cynnwys portreadau olew ar gynfas ganddo o'r beirdd John Jones (Talhaiarn), Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu, o'r pregethwyr Methodistaidd John Elias a Christmas Evans, ac o'r diwinydd ac awdur Methodistaidd Thomas Charles. Paentiodd wrthrychau eraill hefyd, yn cynnwys darluniau o ddigwyddiadau hanesyddol fel Marwolaeth Owain Glyndŵr, a enillodd wobr iddo yn Eisteddfod Llangollen 1858, a phaentiadau bywyd llonydd.
Bu farw'r arlunydd yn Amlwch yng Ngorffennaf 1878.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article William Roos, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.