Cyfres o lifogydd dinistriol o ganlyniad i dridiau o law trwm oedd achos tirlithriadau yn Sierra Leone ar fore 14 Awst 2017.
Cwympodd dir lleidiog yn y brifddinas Freetown a'r cyrion yn Ardal y Gorllewin, gan chwalu rhai adeiladau a gorchuddio eraill. Llithrodd y mwd yn oriau mân y bore, ac felly cafodd nifer o bobl eu dal yn eu tai tra'n cysgu. Un o'r ardaloedd i gael eu taro waethaf oedd Regent, maestref fynyddig i'r dwyrain o Freetown, pan ddymchwelodd y bryniau o'i chwmpas.
Enghraifft o'r canlynol | Llifogydd, tirlithriad |
---|---|
Dyddiad | 14 Awst 2017 |
Lladdwyd | 312 |
Dechreuwyd | 14 Awst 2017 |
Lleoliad | Freetown |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Erbyn diwedd yr wythnos, cyfrifwyd o leiaf 400 o farwolaethau, ac hyd at 600 yn dal ar goll. Collodd mwy na 3000 o bobl eu cartrefi, a chafodd cannoedd o adeiladau eu difrodi neu eu difetha'n llwyr. Wrth i'r glaw barhau bu pryder am dirlithriad arall, a gorchmynodd y llywodraeth i drigolion un llethr o gwmpas Freetown i adael eu cartrefi.
Digwyddodd y drychineb yn ystod tymor glawogydd arbennig o wlyb, a gwnaed yn waeth gan uchder tir isel yr ardal ac isadeiledd gwael, yn enwedig y carthffosydd. Cafodd rhai o'r cyrff eu llusgo i ganol y môr oddi ar arfordir y wlad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tirlithriadau Sierra Leone, 2017, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.