Ffilm ddrama Americanaidd o 1994 yw The Shawshank Redemption a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Frank Darabont ac sy'n serennu Tim Robbins a Morgan Freeman.
Poster theatraidd | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Frank Darabont |
Cynhyrchydd | Niki Marvin |
Ysgrifennwr | Frank Darabont |
Serennu | Tim Robbins Morgan Freeman |
Cerddoriaeth | Thomas Newman |
Sinematograffeg | Roger Deakins |
Golygydd | Richard Francis-Bruce |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Castle Rock Entertainment |
Dosbarthydd | Columbia Pictures (theatraidd) Warner Bros. (cyfryngau cartref) |
Dyddiad rhyddhau | 23 Medi 1994 |
Amser rhedeg | 142 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $25 miliwn |
Refeniw gros | $28,341,469 |
Cafodd y ffilm ei haddasu o'r stori Rita Hayworth and Shawshank Redemption sy'n ymddangos yn y gyfrol Different Seasons gan Stephen King, ac mae'n portreadu Andy Dufresne, bancwr sy'n treulio bron i ddwy ddegawd ym Mhenydfa Daleithiol Shawshank am lofruddiaeth ei wraig a'i chariad er iddo honni ei fod yn ddieuog. Yn ystod ei amser yn y carchar, mae'n dod yn gyfaill i'w gyd-garcharor Ellis "Red" Redding, ac mae'n cael ei amddiffyn gan y gardiau ar ôl i'r warden ddechrau ei ddefnyddio wrth brosesu arian anghyfreithlon.
Er y derbyniad llugoer yn y swyddfa docynnau (a oedd prin yn cyflenwi ei chyllideb), cafodd y ffilm adolygiadau ffafriol gan feirniaid, nifer o enwebiadau am wobrau, ac wedi bod yn boblogaidd iawn ar deledu cebl, VHS, DVD, a Blu-ray, ac yn 2007 cafodd ei chynnwys yn rhestr yr American Film Institute o gant ffilm orau yr Unol Daleithiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article The Shawshank Redemption, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.