Model ffasiwn ac awdures Seisnig ydy Sophie Dahl (ganwyd 15 Medi 1977).
Sophie Dahl | |
---|---|
Ganwyd | Sophie Holloway 15 Medi 1977 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, ysgrifennwr |
Taldra | 180 centimetr |
Tad | Julian Holloway |
Mam | Tessa Dahl |
Priod | Jamie Cullum |
Partner | Mick Jagger |
Gwefan | http://www.sophiedahl.com/ |
Ganwyd Dahl yn Llundain yn 1977, yn ferch i'r awdures Tessa Dahl a'r actor Julian Holloway. Mae hi'n wyres i'r awdur byd-enwog, Roald Dahl, a'r actor Stanley Holloway. Seilwyd y cymeriad Sophie, yn llyfr The BFG gan ei thaid, Roald Dahl, ar Sophie Dahl.
Addysgwyd Dahl yn Ysgol y Brenin Alfred yn Llundain, a dechreuodd fodelu yn 1996 ar ôl cael ei chanfod gan Isabella Blow, tra'n sefyll tu allan i siop lyfrau.
Ymddangosodd Dahl ar boster yn hysbysebu persawr Opium gan Yves Saint Laurent yn 2000, gan achosi cryn ddadl, gan ei bod yn gwbl noeth heblaw par o esgidiau uchel aur. Er nad oedd ei rhannau preifat iw gweld ar y poster oherwydd ei hosgo yn y llun, gorfodwyd i'r cwmni persawr dynnu'r posteri i gyd i lawr oherwydd cwynion. Roedd drost 500 o bosteri wedi eu gosod, a derbynnwyd 730 o gwynion. Roedd y llun eisoes wedi ymddangos mewn cylchgronau merched am ddeufis cyn i'r posteri ymddangos, a dim ond dwy gwyn dderbyniodd yr Asiantaeth Safonnau Hysbysebu. Credai rhai fod y hysbysebion yn diraddio merched. Roedd Brian Hancock, gwleidydd Plaid Cymru yn un o'r rhai a gwynodd.
Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, The Man With The Dancing Eyes, gan Bloomsbury yn 2003. Cyfranodd hefy dat lyfr Truth or Dare, a olygwyd gan Justine Picardie a cyhoeddwyd gan Picador yn 2005. Mae Dahl hefyd yn olygydd sy'n cyfrannu i gylchgrawn Men's Vogue, ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn yr American Vogue, The Guardian, The Telegraph Magazine a The Spectator.
Mae Dahl wedi dychwelyd i fyw i Lundain yn ddiweddar ar ôl treulio 8 mlynedd yn Efrog Newydd. Priododd Jamie Cullum yn 2010.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sophie Dahl, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.