Gwleidydd Serbaidd oedd Slobodan Milošević (Serbeg: Слободан Милошевић; 20 Awst 1941 – 11 Mawrth 2006) a fu'n Arlywydd Gweriniaeth Sosialaidd Serbia o 1989 i 1991, Arlywydd Gweriniaeth Serbia o 1991 i 1997, ac Arlywydd Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 1997 i 2000.
Roedd yn arweinydd Plaid Sosialaidd Serbia.
Slobodan Milošević | |
---|---|
Llais | Slobodan Milošević voice.oga |
Ganwyd | 20 Awst 1941 Požarevac |
Bu farw | 11 Mawrth 2006 Scheveningen |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Gwladwriaeth Ffederal Iwcoslafia, Serbia a Montenegro |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd Serbia |
Plaid Wleidyddol | Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia, Socialist Party of Serbia |
Tad | Svetozar Milošević |
Priod | Mira Marković |
Plant | Marko Milošević |
Gwobr/au | Q100296857, Q100296954 |
llofnod | |
Ganed yn ninas Požarevac yng ngorllewin Serbia, pryd oedd Iwgoslafia dan feddiannaeth yr Almaen Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Montenegroaid o lwyth y Vasojevići oedd ei rieni. Ymunodd Slobodan â Phlaid Gomiwnyddol Iwgoslafia yn 18 oed, a graddiodd yn y gyfraith o Brifysgol Beograd ym 1964. Priododd â Mirjana Marković ym 1965 a chawsant un ferch, Marija (g. 1965), ac un mab, Marko (g. 1974).
Gweithiodd yn weinyddwr busnes yn Tehnogas, cwmni nwy y wladwriaeth, a fe'i penodwyd yn gadeirydd ym 1973.
Bu farw yn y carchar, yn sefyll achos llys am nifer o droseddau honedig, yn cynnwys hil-laddiad ym Mosnia-Hertsegofina, Croatia, a Chosofo yn ystod yr 1990au.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Slobodan Milošević, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.